Hacio’r Iaith Eisteddfod Bro Morgannwg: trafodaeth am amserlen bosib gweithgareddau

Mae Hacio’r Iaith wedi cael cynnig slotiau ar gyfer cynnal gweithgareddau yn y babell Cefnlen yn Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Isod mae tabl yn dangos slotiau sydd ar gael i ni mewn gofod penodedig ar Faes yr Eisteddfod  Genedlaethol. Yn fras, hoffem gynnal sgyrsiau yn y bore, efallai rhyw fath o sesiwn a phethau ymarferol yn slotiau’r prynhawn.

Dyma fersiwn drafod o’r amserlen gyda phopeth wedi ei ploncio mewn heb lot o feddwl. Mae hwn yn drafft llwyr er mwyn annog trafodaeth ac mae popeth yn agored i newid gan gynnwys scrapio sesiynau yn llwyr. Mae’n bosib hefyd bydd angen rhannu ambell un o’r slotiau gyda sefydliadau eraill felly rhyw fath o wish list ydi hwn hefyd!

Mae croeso i chi awgrymu syniadau eraill am sgyrsiau neu weithgaredau ymarferol megis gweithdau er enghraifft yn y sylwadau. Hefyd, nodwch os hoffech chi fod yn rhan o drefnu sesiwn benodol a pha ddyddiau y byddech ar gael a wnawn ni ychwanegu chi at y drafodaeth ebost.

Mae’n siwr bydd tocynnau maes ar gael i gydlynwyr sesiynau. Rydyn ni’n trafod y posibiliad o wneud prosiect cyfryngau sifig / blogwyr bro yn rhan o’r gweithgareddau hefyd.

Diwrnod 09.00 – 12.00 12.00 – 15.00 15.00 – 18.30
Sadwrn Sgwrs: ?? ddim ar gael Gweithdy Blogwyr Bro Steddfod 2012
Sul ?? Ddim ar gael Cymorth cyfryngau cymdeithasol –
Llun Sgwrs: deunyddiadau addysgol Cymraeg – mynediad agored i gyd? Ddim ar gael Gweithdy Sianel 62 / cynhyrchu fideo ar gyfer y we?
Mawrth Ddim ar gael Ddim ar gael Hacio’r Iaith – sesiwn agored amlgyfrannol ar dechnoleg, y Gymraeg a phopeth yn y canol
Mercher Sgwrs: e-lyfrau Ddim ar gael Wicipediwch! – sesiwn ymarferol ar gyfrannu at y gwyddoniadur rhydd
Iau Ddim ar gael Ddim ar gael Hacio’r Iaith – sesiwn agored amlgyfrannol ar dechnoleg, y Gymraeg a phopeth yn y canol
Gwener Gwella dy Gymraeg di drwy
blogio/trydar/wneud podlediad
Ddim ar gael Gweithdy addasu lluniau (pwy sydd am wneud hwn?)
Sadwrn Sgwrs: Gwneud pr€$ digido£, y we Gymra€g ma$na¢ho£ Haclediad – recordiad byw o’r podlediad sy’n trafod technoleg ?

Roedd golygathon Wicipedia, trafod codau QR, sesiwn gemau, sesiwn gymorth meddalwedd cymraeg / cyfryngau arlein dyddiol, rhywbeth cerddorol, sesiwn ar ffonau Android Cymraeg yn syniadau eraill hefyd sydd ddim wedi eu rhoi yn y grid.

Beth chi’n feddwl ta? Trywydd iawn? Neu oes syniadau gwell?

8 sylw

  1. Gwych. Cyffroi!

    Gaf i jyst dweud hefyd: rydyn ni’n trio ymchwilio pa mor fawr fydd y pabell. e.e. ydy mwy nag un sesiwn yn bosib ar yr un pryd?

  2. Ie, dwi’n meddwl taw jest cael y sgwrs am y syniadau sydd bwysica ar y pwynt yma a thrio hogi be da ni eisiau ei wneud yn y slotiau. Mae’n ddigon posib gallen ni gael cymorth meddalwedd Cymraeg / dechrau blogio / trydar ayyb yn anffurfiol yr un pryd a sesiynau eraill.

  3. Gwaith da bobl. Ychydig o bwyntiau. Faint o bobl (yn enwedig bobl syn rhedeg cwnmniau/ dod o sector busnes) yn mynd i’r Eisteddfod ar Dydd Sadwrn? Wi’n credu mae’n well i gael sesiwn ‘arian’ yn ystod yr wythnos achos mae ‘na lot o gwmniau efo ddidordeb mewn codi arian arlein ar y maes yn ystod yr wythnos.

    Dwi’n dal i gredu dylen ni gael ‘lunch and learn’ – sesiwnau bach ar gyfer pobol normal dod mewn a dysgu sut i lawrlwytho apps cymraeg, neu defnyddio MS Office yn gymraeg etc. Ac mae’n bwysig i gael lefydd am bobl i warae efo kit.

    Cwestiwn olaf, sut alla i helpu? Wyt ti isio fi ffeindio gwobrau ar gyfer cystadlaeth (iPad, Kindle etc?) Wyt ti isio fi cael sgwrs efo Golwg, Samsung ac ati?

  4. Gwobrau: Do’n i heb feddwl am hynna (er, dweud y gwir, dan ni Hacio’r Iaithwyr yn griw sy’n mynd yn hollol groes i’r syniad eisteddfodaidd o gystadleuaeth!) Fe allem falle gynnal gweithdy cyflym ac yna cystadleuaeth i bobl ddefnyddio eu smarthphones i wneud cyfweliad byr/ffilmio rhywbeth, a chynnig camera fflip (neu beth bynnag sy’n boblogaidd dyddiau hyn!) i’r sawl sy’n gwnued yr un gorau? Yn amlwg, byddai rhaid i’r camera fod yn well ansawdd/spec na beth gei di ar ffon iddo fo fod werth ei ennill. Syniad arall oedd Ffotomarathon ar y maes – falle byddai camera digidol yn synad fel gwobr petai ni’n cynnig hynny.

    Mae ambell i gwmni cynhyrchu (Cwmni Da a Telesgop yn dod i’r meddwl) yn llwytho cynnwys ychwanegol ar YouTube ar ben beth sy’n ymddangos ar y rhaglenni, sy’n get yn fy marn i – falle gallwn dynnu nhw i mewn i sesyinau creu fideo hefyd (gofyn am fenthyg offer, cynnig cyngor ar ffilmio a golygu a falle uwchlwytho ar eu gwefannau/cyfrifon YouTube a Vimeo). Cyfle da iddyn nhw ffeindio darpar staff a chyfle iddyn nhw noddi.

    Pwynt da am sesiwn ‘gwneud arian’, er faswn i ddim eisiau pandro gormod i bobl sy ond y troi i fyny Llun-Gwener achos bod gwaith yn talu a wedyn bygro ffiwrdd! – os ydy rhywbeth yn mynd i fod o fudd iddyn nhw yny pendraw (e.e. yn ariannol), yna siawns gallant aberthu eu dydd Sadwrn. Wedi dweud hynny, mae slot bore Sadwrn yn reit ‘premium’ faswn i’n ddychmygu, felly dylem ei ddefnydio’n ofalus.

    Ni heb gael y manylion am set-up y gofod eto i weld os yw’n ymarferol cynnal sesiynau ‘lunch and learn’ ar yr un pryd a sesiwn arall (h.y. oes digon o le i ddau beth yr un pryd).

  5. @marc diolch yn fawr am dy sylwadau!

    – sesiwn arian – cytuno. Sdim problem symud hwn i ddiwrnod arall.
    – lunch and learn – does dim modd defnyddio’r lle dros ginio, ond dwi’n meddwl gallwn ni wneud hwn fel rhywbeth sydd yn digwydd rhwng 11-12 ac ochr yn ochr â’r sdwff ymarferol pnawn. Bod o’n un agwedd o’r sdwff sydd yn gyson.
    – os galli di ffeindio gwobrau ar gyfer cystadleuaeth byddai hynny’n WYCH. Unrhywbeth i ddenu pobol draw. Os gallwn ni gael benthyg chydig o ffonau, tablets, ayyb ar gael i wneud demos efo nhw (a ffidlan efo Android ac ati) yna gorau oll. Go forth and blag! 😉

    @rhys

    dwi chydig yn bryderus am drefnu ffotomarathon / fideomarathon achos mae’n nhw’n lot o waith trefnu a bosib dylen ni ganolbwyntio ar y sdwff sydd yn digwydd yn y Gefnlen. Gallwn ni wneud cystadleuaeth sydd yn denu pobol i ddod i siarad – e.e. rhaid i rywun sgwennu cofnod blog/trydar/Flickr/creu erthygl Wici neu gymryd rhan mewn gweithdy er mwyn bod yn y ‘draw’. Incentive i gael pobol i gynhyrchu rhywbeth yn y stondin.

  6. Cytuno, eisio rhoi cyn lleied o bwysau trefnu arnom a phosib a chadw pethau’n syml.

    Gallwn ni wneud cystadleuaeth sydd yn denu pobol i ddod i siarad – e.e. rhaid i rywun sgwennu cofnod blog/trydar/Flickr/creu erthygl Wici neu gymryd rhan mewn gweithdy er mwyn bod yn y ‘draw’. Incentive i gael pobol i gynhyrchu rhywbeth yn y stondin.

    Dw i’n licio hwnna’n fawr, hefyd at y rhestr yna cynnwys y stori Storify orau, ar destun agored ond annog canolbwyntio ar bwnc penodol, (eg gig yn Maes B, dilyn cyffro y coroni/cadeirio, pobl yn cwyno/canmol y parctio/tywydd/bwyd , ymated i’r Lle Celf)

  7. A mae croeso i chi benthyg fy Macbook pro sydd a final cut arno ar gyfer unrhyw gweithdai sy’n ymwneud a fidio.

Mae'r sylwadau wedi cau.