Cymunedau, grwpiau ac unigolion ar Twitter

Pwy sy’n rhedeg Wicipedia ar Twitter? Diolch am y retweet ond dw i ddim yn licio hwn cymaint.

“Dylai” Wicipedia bod yn ffrwd pur o’r platfform Wicipedia. Yn gyffredinol, yn fy marn i, os ti’n cael logo fel dy lun proffil, dylet ti feddwl am bwy ti’n cynrychioli – dy hun yn unig neu grŵp neu gymuned. Meddyliau?

7 sylw

  1. Fi greodd y cyfrif, a dyma fi’n aildrydar er mwyn hyrwyddo Wiciquote (ac Y Twll !).

    Ond mi wyt ti’n iawn, falle nad oes gan bobl diddordeb ynddo a ddim eisiau manylion gwasanaeth arall ymysg ffrwd Wicipedia. Mae hefyd pryg i bobl gymysgu rhwng y ddau os nad ydynt yn gyfarwydd a srtwythyr prosiectau WikiMedia.

  2. Diolch Rhys, dw i’n meddwl bod 2 mater yn bodoli yma:
    1. perthnasedd
    2. “llais”

    Ti’n cywir am berthnasedd.

    Peth arall “llais” yw, mae gyda ti “pwer” a chynulleidfa sy’n ymddiried y cyfrif mewn ffordd.

    Dw i’n rheoli’r cyfrif haciaith ar Twitter. Dyw e ddim yn glir iawn ond dw i wedi dewis ffrwd pur yn unig. Mewn theori, dyn ni’n gallu hybysebu neu dosbarthu unrhyw neges. Ond dyn ni eisiau creu platfformau niwtral.

    Mae Google yn cael yr un drafodaeth gyda chanlyniadau chwilio. Dw i ddim yn *meddwl* bod nhw yn newid nhw yn ôl diddordebau arbennig…

  3. Cytuno, dilynais i @organicwales gan mod i a diddordeb yn y diwydiant bwyd organic yng Nghymru ac fe bostio’n nhw ddolen at erthygl am safle siwpsiwn yn debym £X mililwn. Wnaethon nhw ddim cynnig sylw eu hunain ond gallaf ddyfalais beth oedd eu barn.

    Mae ambell gyfif busnes arall dw i wedi ei ddilyn yn cynnwys lot o tweets personol am bethau dibwys ac amherthnasol i mi (fel canlynidau tîm criced Lloegr ayyb), felly dylwn fod yn gwybod yn well!

  4. Dwi dal yn teimlo’n anghysurus iawn bod cyfrif @pethaubychain yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob math o bethau sydd ddim yn gysylltiedig a’r digwyddiad. Yn yr un modd ag y mae Wicipedia yn wefan sydd a nifer o gyfrannwyr, mae Pethau Bychain yn ddigwyddiad gyda nifer o gyfrannwyr ac mae’n tanseilio ymddiriedaeth yn y ‘brand’ os mae na bethau amherthnasol yn dod trwy’r ffrwd honno.

    Mae ymddiriedaeh yn rhywbeth sy’n araf i’w adeiladu, ond yn hawdd i’w golli. Mae ymddiriedaeth ynghyd a sylw, yn bethau gwerthfawr iawn ar-lein.

    Dwi wedi gweld un achos yn ddiweddar lle mae enw’r person sydd yn trydar ar gyfer brand yn yr wybodaeth ychwanegol gyda dolen i’w cyfrig Twitter personol nhw. Mae hwnna’n un ffordd o gadw pethau chydig yn gliriach.

  5. Mae @pethaubychain yn cael ei ddefnyddio yn ormodol i hyrwyddo pethau eraill Rhodri. Pwy sydd tu ôl i’r cyfrif?

    Dwi’n colli diddordeb yn y cyfrif ac y wefan. Ond does dim byd newydd yn digwydd ar y wefan y dyddiau yma.

    Mae angen gwella arni does? Carl, ti sy’n gyfrifol am y wefan yn de?

Mae'r sylwadau wedi cau.