5 blog newydd am fwyd a diod
Mae 2011 wedi bod yn flwyddyn amheuthun iawn os ti’n licio blogiau am fwyd a diod yn yr iaith Gymraeg.
Mae 2011 wedi bod yn flwyddyn amheuthun iawn os ti’n licio blogiau am fwyd a diod yn yr iaith Gymraeg.
Rhys yn dweud:
Problem yw, dyw’r Rhestr ddim yn hollol gyflawn. Dydyn ni ddim yn gwybod lleoliad o’r rhan fwyaf o flogiau. Wrth gwrs mae rhai yn siarad am bynciau tu hwnt lleoliad y blog, e.e. gwyddoniaeth, coginio neu gwleidyddiaeth Cymru fel gwlad. Mae rhai o bobol yn hapus i flogio heb nodi lleoliad.
Dyma’r siroedd gyda’u blogiau, yn 么l Y Rhestr hyd yn hyn.
Blog o Abertawe (2 blog)
Blog o Flaenau Gwent (1 blog)
Blog o Gaerdydd (34 blog)
Blog o Gaerffili (6 blog)
Blog o Sir Gaerfyrddin (6 blog)
Blog o Gastell-nedd Port Talbot (1 blog)
Blog o Geredigion (16 blog)
Blog o Gonwy (3 blog)
Blog o Sir Ddinbych (2 blog)
Blog o Wynedd (16 blog)
Blog o Sir Benfro (1 blog)
Blog o Rhondda Cynon Taf (5 blog)
Blog o Ynys M么n (3 blog)
Felly mae 96 blog wedi cael eu nodi dan categor茂au sir penodol
Paid anghofio’r 33 blog sydd wedi cael eu nodi fel Blog o du all i Gymru
Ond mae cyfanswm o 295 blog yn Y Rhestr.
Felly mae 166 blog heb lleoliad.
Efallai bydd rhai yn dod dan y categor茂au uchod.
Efallai bydd rhai (gobeithio) yn dod dan y categoriau isod, siroedd heb blogiau, yn 么l Y Rhestr hyd yn hyn.
Bro Morgannwg
Casnewydd
Sir y Fflint
Sir Fynwy
Bwrdeistref sirol Merthyr Tudful
Pen-y-bont ar Ogwr
Powys
Torfaen
Wrecsam
Defnyddia Google Blog Search os ti eisiau chwilio am eithriadau! e.e. pentrefi ym Mhowys
Hyd yn oed gyda’r caveats uchod, dyw’r canlyniadau ddim yn edrych mor dda – yn enwedig achos rydyn ni’n siarad am hanes blogio Cymraeg hyd yn hyn yn gynnwys y blogiau sy’n cysgu.
Edrych fel does neb yn fodlon cynrychioli‘r llefydd yma, neu does dim lot – 3 blog Ynys M么n ac 1 o Sir Benfro yn hanes blogio Cymraeg?
Os ti eisiau dechrau blog nawr am unrhyw beth mae WordPress Cymraeg yn dda.
Diolch i Rhys am ddechrau’r sgwrs yma.
Dwi’n gwrthwynebu braidd i’r categoreiddio yma. Alla’i ddim siarad am neb arall ond dyw lle dwi’n byw ddim i’w wneud a fy mlog i. Dwi ddim yn ‘cynrychioli’ Caerdydd nac yn canolbwyntio ar unrhyw gofnodion i wneud a’r lle (yn wahanol i flogiau sy’n benodol am aral fel Ein Caerdydd).
Dwi ddim yn gweld fod blogiau yn gorfod adlewyrchu dosbarthiad daearyddol yr awduron. Mi fase’n i’n disgwyl fwy mewn llefydd fel Caerdydd oherwydd nifer uwch o fyfyrwyr ayyb. Mae’n werth gofyn pam nad oes fwy o flogiau o ardaloedd fel Gwynedd a Cheredigion ond dwi’n amau fod llawer o flogiau yn cael eu dechrau gan bobl ifanc tra eu bod nhw yn y coleg i ffwrdd o’i cynefin?
Mae Twitter yn fwy addas ar gyfer y math yma o ddadansoddiad efallai.
@Dafydd
Gwrthwynebu categoreiddio ffwl stop, neu yn ol lleoliad yn benodol?
Pwrpas y categori oedd jyst er mwyn i bobl sylwi bod blogwyr Cymraeg eraill yn byw yn eu mysg, ac falle hoffent drefnu rhyw flog-gwrdd lleol neu beth bynnag, dim byd arall.
Trydarais fel y gwnes mond er mwyn cael ymateb a help gyda categareiddio pellach, nid er mwyn trio creu cystadleuaeth rhwng un ardal a’r llall (ac fei weithiodd). Nid ‘cynrychioli’ oedd y gair cywir falle.
Ti newydd roi syniad i fi rwan am gategori arall – un yn ol galwedigaeth…..
…OK, falle ddim.
Dwi’n gwrthod categoreiddio ar leoliad heblaw fod y blog yn amlwg yn canolbwyntio ar ardal benodedig. Dwi ddim yn ei weld yn ddefnyddiol, heblaw fel astudiaeth academaidd. Dyw e ddim yn gwneud synnwyr i fi i wahaniaethu rhwng blog gan rywun yng Nghwynedd gyda blog rhywun yn Llundain neu blog o Japan er enghraifft. Blog Cymraeg ydi blog Cymraeg. (Os oedd posib ‘tagio’ blogiau yn y brif rhestr gyda un neu fwy o gategoriau (pwnc, lleoliad, ayyb) efallai fase’n i’n gwrthwynebu llai).
Be ddigwyddodd i rhithfro.com lle’r syniad oedd gallu casglu awduron blogiau, falle creu map o leoliadau?
Mae gwybodaeth lleoliad ar y we gyhoeddus felly rydyn ni’n ei ailddefnyddio ‘achos mae’n bosib’.
Mae rhai yn canolbwyntio ar ardal ac mae rhai yn cyhoeddi’r lleoliad, e.e. ar yr ochr neu tudalen ynghylch ayyb.
Ar y dechrau gwnaethon ni cytuno i beidio sgwennu unrhyw beth sydd ddim ar y blog eisoes. (Weithiau trwy ffrindiau rydyn ni’n gwybod y lleoliad ond y rheol yw, dim ond gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus.)
Wrth gwrs does dim ots os mae 166 blog yn arnofio yn y gofod heb leoliad. Gwych.
Ond dim blogiau byw yn Gymraeg sy’n gysylltiedig 芒 Sir Benfro? C’mon.
Rydyn ni wedi cael lot o sgyrsiau fel hyn. Mae’r project yn ‘top i lawr’. Fel y cyfeirlyfr Yahoo mewn ffordd.
Mae Hedyn wedi bod yn dda dan Creative Commons BY-NC-SA ond hoffwn i awgrymu trwydded arall, rhywbeth mwy rhydd, sef CC-BY. Mewn geiriau eraill dw i eisiau colli’r cyfyngiad anfasnachol a’r cyfyngiad ‘Share Alike’…
Darllena mwy: http://hedyn.net/wici/Sgwrs:Hafan#Cynnig:_newid_trwydded_Hedyn
Plis ychwanega unrhyw sylwadau ar y dudalen uchod hefyd.
Rydyn ni wedi bod yn gasglu blogiau Cymraeg yma:
http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_Cymraeg
Dw i newydd ychwanegu blog 201 felly rydyn ni yn y trydydd cant o flogiau.
Mae popeth dan gategor茂au, e.e. Blog a sefydlwyd yn 2011, Blog am dechnoleg, Blog am gelf, Blog am ddysgu Cymraeg, Blog am wleidyddiaeth, Blog ar WordPress.com…
Ydyn ni wedi colli unrhyw blogiau? Croeso i ti ychwanegu blogiau neu awgrymu blogiau isod.
Croeso i ti ail-ddefnyddio’r data am unrhyw beth. Bydd ffrydiau o gategor茂au yn bosib, er enghraifft.
Diolch i Rhodri ap Dyfrig a Rhys Wynne am help. Diolch eto i Rhys am y syniad! Mae’n anodd ffeindio blogiau Cymraeg weithiau, yn enwedig y rhai diddorol o 2005 sy’n cysgu ayyb, felly mae’r Rhestr wedi bod yn help mawr.
enw: fel dagrau yn y glaw
cyfeiriad: http://feldagrauynyglaw.blogspot.com/
disgrifiad: mwy dynol na dynol
awdur: Simon Dyda
lleoliad: Caernarfon
sefydlwyd: 2010
Ychwanegwyd. Diolch!
http://hedyn.net/wici/Fel_dagrau_yn_y_glaw
Ond mae unrhyw un yn gallu creu cyfrif a chyfrannu.
Dim ond 9 blog a dechreuodd yn 2011 – hyd yn hyn? Disgwyl mwy! Unrhyw un yn gwybod?
http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_a_sefydlwyd_yn_2011
Gyda llaw oedd 2010 yn amser-b诺m i ddechrau blog – mae 21 ar Y Rhestr dan y categori Blog a sefydlwyd yn 2010 ar hyn o bryd. Er dydyn ni ddim wedi gorffen Y Rhestr eto..
Waaaw, 163 blog hyd yma. Wyt ti wedi bod trwy pob un ar rhestr hedyn felly? Go dda. Af i’n 么l rwan a llenwi’r categoriau a trio meddwl am rai coll sydd wedyn syrthio drwy’r rhwyd a rhai dois ar draws ers creu rhestr ar Hedyn.
Weeedyn, cawn ddechrau ar y ‘pie charts’ 馃檪
Sylwais i bod yn rhyw fatho ddadeni wedi bod yn 2010 heyf, plus dipyn o sefydliadau yn dechrau blogio hefyd, sy ond yn gallu bod yn beth da. Dw i’n priodoli hyn yn rhanol at sefydliadau yn creu strategaethau rhwydweithiau cymdeithasol o’r diwedd yn sgil poblogrwydd Twitter a FB, a bod byd y blogiau wedi elw o hyn. Beth chi’n feddwl – blogiau Cymraeg yn piggi-bacio ar gefn poblogrwydd yr union bethau sy wedi bod yn peryglu eu llwyddiant?
Dw i wedi cyflawni’r rhestr o “flogiau byw” o’r hen dudalen Cyfeirlyfr. Ond dw i heb lenwi categor茂au eto. Dw i heb fynd trwy’r rhestr o flogiau sy’n cysgu chwaith. Dw i’n rhoi mwy o ffocws ar y rhai sy’n cysgu cyn y rhai coll / sydd wedi cael ei dileu.
Pwynt da – mae lot o bobol yn blogio ar Facebook/Twitter felly efallai maen nhw yn gallu gweld manteision blogiau mawr.
Pa raglen?
Pa raglen?
Wps, sylw am y cofnod blaenorol oedd o i fod.
271 o flogiau ar Y Rhestr erbyn hyn, ac yn 6 mis cyntaf 2011, mae 45 blog wedi eu creu, o’i gymharu a 38 trwy gydol 2010. Addawol iawn.
Y Rhestr, ein Project Genom Blogosffer Cymraeg! http://hedyn.net/wici/Y_Rhestr
Blogiau Cymraeg http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_Cymraeg
Categoriau, e.e. Blogiau am arddio http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_am_arddio
Podlediadau Cymraeg http://hedyn.net/wici/Categori:Podlediad_Cymraeg
Dyw’r Rhestr dddim yn gyflawn eto ond gallet ti helpu! Sut i ychwanegu blog i’r Rhestr: http://hedyn.net/wici/Sut_i_ychwanegu_blog_i%27r_Rhestr
Syniad gwreiddiol gan Rhys Wynne
Mae’n mynd yn dda hyd yn hyn, bron i 80 blog wedi eu rhestru’n barod, o mond rhai’n dechrau gyda A a B dw i wed i bod yn canolbwyntio arnynt hyd yma. Diolch i bawb sy wedi cymryd rhan hyd yma a c mae croeso i bawb pitsio i mewn hefyd.
Y gobaith yw erbyn y diwedd (os bydd diwedd – mae blogiau Cymraeg newydd yn ymddangos yn rheolaidd), bydd modd cymharu ac edrych ar dueddiadau dros amser oes mwy o ferched na bechgyn yn dechrau blogs rwan o’ gymharu a 5-6 mlynedd yn 么l? ayyb) a gweld lle mae’r mwyafrif o’r blogwyr yn byw.
Diolch am greu cofnod am hyn.
Mi eiriais y trydariad fel y gwnes i gan yr oeddwn yn meddwl byddia’n ennyn ymateb (ni Gymry mor blwyfol!), a cafodd ei aildrydar gan sawl un, ces i ymateb gan flogiwr drwy Twitter yn dwed bod e flog o ar goll ac aeth eraill at Hedyn a gwirio manylion eu blogiau hwythau ac eraill – Canlyniad!
Mae hefyd wedi procio fy nghof i am unai blogiau oedd heb eu cynnwys neu ble nad oeddynt wedi eu categoreiddio’n gyflawn eto, felly rwan mae gyda ni gynrychiolaeth ar gyfer Powys, Wrecsam, Sir y Fflint a Bro Morgannwg.
297 blog ar y rhest erbyn hyn.