Firefox OS: Cyfle i’r Gymraeg ar ffonau symudol

Mae Firefox OS Mozilla wedi cael cryn dipyn o sylw yn y Mobile World Congress, Barcelona ddiwedd Chwefror. Hyd yma mae sôn bod 17 o ddarparwyr gwasanaethau yn eu cefnogi yn ogystal â 4 gwneuthurwr ffôn gan gynnwys Alcatel, LG, ZTE a Sony. Mae pethau’n edrych yn addawol felly… Bwriad Mozilla a’i bartneriaid yw i… Parhau i ddarllen Firefox OS: Cyfle i’r Gymraeg ar ffonau symudol

App Geiriadur Lluniau i blant

Dw i wedi derbyn ebost gyda’r datganiad i’r wasg canlynol. Gobeithio nad ydych yn meindio i mi ei ailgyhoeddi yn ei gyfanrwydd. Mae’r Welsh-English Picture Dictionary App – y cyntaf o’i fath ar gyfer plant – ar werth. Am y pris rhesymol o £1.99, cewch ap sy’n gweithio’n debyg i gêm ryngweithiol. Cliciwch isod am… Parhau i ddarllen App Geiriadur Lluniau i blant

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel newyddion Cofnodion wedi'u tagio ,

Ffeiliau Gweithdy App Haciaith Eisteddfod ar Github

Cefais y fraint o gynnal gweithdy App ym mhabell Haciaith yn Eisteddfod 2012, ac o’r diwedd mae’r ffeiliau ar gael ar-lein. Dwi wedi penderfynu defnyddio Github i’w cyhoeddi. Mae Github yn wefan sy’n darparu gwasanaeth Version Control. I chi di-geekwyr mae hon yn system tebyg i Undo mewn dogfen, ond ar gyfer projectau sy’n cynnwys… Parhau i ddarllen Ffeiliau Gweithdy App Haciaith Eisteddfod ar Github

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel newyddion

Yn dallt Ruby, Python a PHP ac eisiau ‘ennill’ £75?

Yn ôl yn 2009 daeth sawl gwefan defnyddiol i ben wrth i’r Post Brenhinol fygwth camau cyfreithiol yn eu herbyn am ddefnyddio data codau post oni bai eu bod yn talu £4,000 y flwyddyn am y data. Un o’r gwefannau oedd PlanningAlerts.com a oedd yn tynnu gwybodaeth am geisiadau cynllunio o wefannau awdurdodau lleol a’i… Parhau i ddarllen Yn dallt Ruby, Python a PHP ac eisiau ‘ennill’ £75?

META-NET: astudiaethau o sefyllfa technoleg iaith 30 o ieithoedd Ewrop

Mae cyfres o adroddiadau wedi cael eu cyhoeddi gan META-NET, yn edrych ar sefyllfa 30 o ieithoedd Ewrop o ran technoleg iaith. Mae Basgeg, Catalan a Gwyddeleg yn eu plith ond dydy’r Gymraeg ddim gwaetha’r modd. Dyma’r canlyniadau allweddol: http://www.meta-net.eu/whitepapers/key-results-and-cross-language-comparison Gellir llwytho copïau o’r adroddiadau unigol llawn o: http://www.meta-net.eu/whitepapers/index_html

Cyfarfod Blynyddol Ubuntu Cymru

Helo! Rwy’n Mark, y Pwynt Cyswllt ar gyfer Ubuntu Cymru, a’r cyfieithydd arweiniol ar gyfer Ubuntu yn Gymraeg. Mae Ubuntu Cymru yn cynnal ei gyfarfod blynyddol ar ryw adeg ym mis Hydref (ar ôl i mi ddychwelyd o ymweliad teulu i Llandudno), ac rydym yn mynd i gynnal y cyfarfod ar Google+, Nid oes agenda… Parhau i ddarllen Cyfarfod Blynyddol Ubuntu Cymru

Sawl tafarn sydd yn Gaernarfon? 2 yn ôl Apple.

Neithiwr fe lawr-lwythais iOS 6 i fy iPad ag fy iPhone. Y newid mwyaf oedd yn dod gyda’r diweddariad yma oedd y ffaith fod Apple yn cael gwared o Google fel eu system mapio ac yn creu un eu hyn. Roedd gennai ddim llawer o ffydd y fydd Apple yn poeni am ein cornel bach… Parhau i ddarllen Sawl tafarn sydd yn Gaernarfon? 2 yn ôl Apple.

Arbenigedd cyfrifiadurol Prifysgol Glyndŵr i lunio cenhedlaeth newydd o raglenwyr

Dyma stori o adran newyddion gwefan Prifysgol Glyndŵr: Bydd gwyddonwyr cyfrifiadurol o Brifysgol Glyndŵr yn dysgu rhaglennu cyfrifiadurol i ddisgyblion o saith ysgol yng ngogledd Cymru ar ôl ennill gwobr addysg o fri.  Mae’r brifysgol yn un o ddim ond 31 corff yn y DU, a’r unig un yng Nghymru, i dderbyn Bwrsari Addysg gan Gymdeithas… Parhau i ddarllen Arbenigedd cyfrifiadurol Prifysgol Glyndŵr i lunio cenhedlaeth newydd o raglenwyr

Myfyrwyr Smart Pen Llŷn a gweithdai app #steddfod2012

Dyma stori wedi ei chymryd o adran newyddion gwefan Coleg Llandrillo: Myfyrwyr Smart Yn ddiweddar, treuliodd grŵp o ddisgyblion blwyddyn naw Ysgol Glan y Môr ac Ysgol Botwnnog ddiwrnod ar gampws Coleg Meirion- Dwyfor ym Mhwllheli yn cymryd rhan mewn gweithdy technoleg unigryw. Cafodd y myfyrwyr ddysgu am hanfodion creu apiau ar gyfer ffonau a… Parhau i ddarllen Myfyrwyr Smart Pen Llŷn a gweithdai app #steddfod2012

Addiply Cymraeg cam yn nes.

Mae cofnod ar flog Richard Waghorn, sy’n cyfierio at addiply a’r Gymraeg: But on the back of a meeting in the City yesterday with a translation team and various bits and bobs of development work successfully concluded over the last couple of weeks – particularly now that we have a bright, new, shiny API to… Parhau i ddarllen Addiply Cymraeg cam yn nes.