Mae pob gair o’r Android Open Source Project a LineageOS erbyn hyn wedi’u lleoleiddio ac Android ar gael am y tro cyntaf yn llawn yn Gymraeg*. Ond mae dal wir angen eich help chi i gywiro a gwella ambell beth. Lineage 15.1 a 16.0 Mae ROMs swyddogol 16.0 nawr yn cael eu hadeiladu yn ddyddiol… Parhau i ddarllen LineageOS – Android 100% yn Gymraeg, ond…
Categori: Amrywiol
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am ddylunydd gwefan
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am ddylunydd gwefan sydd yn gallu creu neu addasu thema ar gyfer gwefan Drupal. Am ragor o fanylion am y cyfle hwn cysylltwch trwy’r manylion sydd yn yr hysbys ar wefan y Gymdeithas.
LineageOS – Android yn Gymraeg
Dyma ddiweddariad o ble mae’r gwaith lleoleiddio AOSP – yr Android Open Source Project – a LineageOS arni ar hyn o bryd. Fel pob prosiect cod agored arall, mae croeso i unrhyw un gyfrannu. Ymunwch yma: https://crowdin.com/profile/LineageOS Fersiwn Android Fersiwn LineageOS AOSP – Android Open Source Project (Android ei hun) LineageOS (ychwanegion LineageOS i AOSP)… Parhau i ddarllen LineageOS – Android yn Gymraeg
WordPress 5.1
Mae WordPress ar garlam i gael y golygydd newydd “Gutenberg” yn ei le yn ddiogel ac yn gweithio’n dda. Dyma ail ran o’r datblygiad a bydd rhan arall yn cyrraedd ddiwedd Ebrill, gyda WordPress 5.2. Bosib bydd rhai ohonon ni’n cadw at yr hen drefn nes bod y drefn newydd i gyd yn ei le… Parhau i ddarllen WordPress 5.1
Cadw Google a Facebook yn eu lle…
Wyddoch chi fod cwmnïau mawr y we yn eich dilyn o amgylch y we, yn casglu tystiolaeth o’ch ymddygiad ar-lein ac yn ei werthu i hysbysebwyr? Mwyaf o ddata sydd gan hysbysebwyr mwyaf effeithiol mae nhw’n credu y gallan nhw eich targedu. Mae’n fusnes mawr, mae’r biliynau o elw wnaeth Google a Facebook yn seiliedig… Parhau i ddarllen Cadw Google a Facebook yn eu lle…
Tendr WordPress: datblygu meddalwedd ar gyfer cynllun Bro360
Os ydych chi’n arbenigo mewn WordPress mae cyfle i chi geisio am dendr i ddatblygu i gwmni Golwg360 a’i brosiect newyddion lleol Bro360. Dw i eisoes wedi blogio am hyn. Ewch i GwerthiwchiGymru am ragor o fanylion am y cyfle, sydd bellach yn fyw.
Rhoi Eicon Common Voice ar Sgrin y Ffôn neu Dabled
Mae’n haws cofio i recordion ar Common Voice gyda eicon ar sgrin y ffôn neu dabled er mwyn cofio. Sut mae gwneud? Ffwrdd â ni… Firefox Android Agor yr ap a thapio’r botwm dewislen tri dot ar y dde, dewis Tudalen a thapio Creu Llwybr Byr Tudalen. Dyna ni, bydd eicon Mozilla’n ymddangos ar sgrin… Parhau i ddarllen Rhoi Eicon Common Voice ar Sgrin y Ffôn neu Dabled
LibreOffice 6.2
Croeso i’r Bar Adnoddau! Mae LibreOffice 6.2 yn cynnwys cynllun rhyngwyneb defnyddiwr newydd – dewisol – o’r enw’r Bar Adnoddau.. Mae’n uno’r barau offer a’u grwpio i dabiau, gan eich cynorthwyo i weithio’n gynt a chlyfrach. Gwyliwch y fideo er mwyn gweld y bar ar waith a sut mae modd i chi ei brofi. https://youtu.be/6HUnR5IoAQk Prosesu… Parhau i ddarllen LibreOffice 6.2
Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn ar sgwrsfotiau
Sesiwn gan Maredudd Sgwrsfotiau yn gyfle i wella gwasanaeth sefyliad neu gwmni. (Defnydd mewn dysgu ieithoedd a meysydd eraill hefyd?) Teipio ar hyn o bryd, ond mae llais ar y ffordd. Rhagor am deallusrwydd artiffisial. Termau sgwrsfotiau: Gweithred Bwriad Endidau Angen mewnbynnu data sy’n cynnwys slang/bratiaith, e.e. ‘beth sydd i wotsho ar y teledu’, ‘pa… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn ar sgwrsfotiau
Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn 3: Technoleg lleferydd
Delyth Prys yn cyflwyno yn lle Rhos ei gwr, sy’n brysur iawn gyda lleoleiddio. (Helo Rhos gan bawb yma gyda llaw!) Tra yn Berlin yn son am eu gwaith ar yr ap Paldaruo, clywodd cynrychiolwyr Mozilla am hyn. Sonio’n nhw am Common Voice, ble roedd 20,000 wedi cyfrannu at gynnwys Saesneg. Perswadwyd Mozilla i agor Common… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn 3: Technoleg lleferydd