LineageOS – Android yn Gymraeg

Dyma ddiweddariad o ble mae’r gwaith lleoleiddio AOSP – yr Android Open Source Project – a LineageOS arni ar hyn o bryd. Fel pob prosiect cod agored arall, mae croeso i unrhyw un gyfrannu. Ymunwch yma: https://crowdin.com/profile/LineageOS

Fersiwn Android Fersiwn LineageOS AOSP – Android Open Source Project (Android ei hun) LineageOS (ychwanegion LineageOS i AOSP)
Geiriau yn y gwreiddiol (En_US) Wedi’i lleoleiddio (Cy_GB) Geiriau yn y gwreiddiol (En_US) Wedi’i lleoleiddio (Cy_GB)
6.0.1 (Marshmallow) 13.0 64,397 100% 17,886 95% (17,098)
7.1.2 (Nougat) 14.1 16,267 100% 6,860 74% (5,133)
8.1 (Oreo) 15.1 23,061 98% (22,780) 5,016 99% (4,972)
9.0 (Pie) 16.0 15,800 93% (14,933) 602 100%
Cyfanswm 119,525 99% (118,377) 30,364 91% (27,805)
Sgrin gartref LineageOS 16.0
Sgrin gartref LineageOS 16.0

Yn anffodus, dyw’r Gymraeg yn LineageOS ei hun ddim cweit mor gyflawn â’r ffigyrau uchod am fod datblygwyr ond yn diweddaru ffeiliau’r system gyda’r cyfieithiadau tua unwaith y mis. Digwyddod y mewnforio diweddaraf o’r Gymraeg ar 1af o Fawrth (ferswin 15.1) a 27 Chwefror (16.0).

Mae dros 8,000 o eiriau wedi’u lleoleiddio ers hynny ac ni fydden nhw’n ymddangos yn adeileddau LineageOS am ychydig wythnosau. Ond mae’r rhannau olaf i’w lleoleiddio yn tueddu bod yn ddwfn o fewn y system mewn mannau a nodweddion nad yw’r defnyddiwr cyffredin yn debyg o’u gweld yn aml.

Sgrinlun apiau ar LineageOS 16.0
Sgrinlun apiau ar LineageOS 16.0

Dw i’n mawr obeithio i fwy o bobol rhoi cynnig ar ddefnyddio dyfais gyda LineageOS yn Gymraeg. Dw i’n siŵr bod camgymeriadau yma a byddai’n dda cael gwybod am unrhyw wallau a sicrhau bod y Gymraeg yn cadw yn gywir ac yn gyfoes. Yn ddelfrydol, byddai defnyddwyr sy’n sylwi unrhyw fylchau neu gamgymeriadau yn y Gymraeg yn mynd draw at CrowdIn a chynnig gwelliannau.

Lawrlwytho

Mae ROMs LineageOS swyddogol ar gael i’w lawrlwytho yma: https://download.lineageos.org/

Mae argaeledd LineageOS ar gyfer unrhyw ddyfais benodol yn ddibynnol ar rywun gyda thipyn o arbenigedd i gynnal a chadw adeiledd ar gyfer y ddyfais honno. Mae adeiladu’r ROM cyntaf ar gyfer unrhyw ddyfais yn broses cymhleth am fod, er enghraifft, rhaid cynnwys cnewyll sy’n unigryw i bob model. Mae gen i Samsung S5, er enghraifft. Ond mae dwsinau o wahanol fodelau o’r S5 ac o ganlyniad mae o leiaf deg gwahanol ROM LineageOS ar eu cyfer nhw. Os am osod LineageOS a chael Android yn Gymraeg ar eich dyfais chi, rhaid gwybod union fodel y ddyfais (i’w weld yn y gosodiadau) yn hytrach na dim ond ei henw, ac edrych yn gyntaf os oes ROM LineageOS ar ei chyfer.

Sgrinlun dewisiadau yn LineageOS 16.0
Sgrinlun o’r gosodiadau yn LineageOS 16.0

Mae’r fersiynau o LineageOS sydd ar gael ar gyfer gwahanol ddyfeisiau hefyd yn amrywio. Mae LineageOS 16.0 ar gael ar gyfer rhai dyfeisiau tra bod fersiynau 15.1 neu 14.1 ar gael ar gyfer dyfeisiau eraill. Dw i ddim yn credu bod LineageOS 13.0 yn dal i gael ei gynnal ar gyfer unrhyw ddyfais.

Gosod

Dw i ddim am roi canllawiau gosod yma. Mae’r broses yn gymhleth, yn amrywio o un ddyfais i’r llall, gyda thipyn o risg, ac, o brofiad, mae fel arfer ychydig o helyntion annisgwyl i’w datrys. Os oes gennych hen ddyfais Android ac eisiau rhoi bywyd newydd iddo trwy osod Android amgen a mwy diweddar, rhyddhau lle ar y storfa, ymestyn oes y batri, a bod ymhlith y cyntaf i fod â ffon Android Cymraeg – cysylltwch i drafod. Yn ogystal â gallu gosod LineageOS ar eich dyfeisiau, mae gen i nifer o ffonau Samsung gydag Android Cymraeg ar werth.

Sgrin gartref Android /e/ fersiwn 0.2 yn Gymraeg
Sgrin gartref Android /e/ fersiwn 0.2 yn Gymraeg

Gair am /e/

Mae /e/ yn fersiwn o Android sy’n cael ei datblygu gyda’r bwriad o fod wedi ei osod ar ddyfeisiau sydd ar gael i’w prynu. Mi fuasai’n dda pe bai’r Gymraeg yn gyflawn yn y system pan gaiff fersiwn 1.0 ei ryddhau.

Mae Android /e/ (https://e.foundation) wedi’i adeiladu yn seiliedig ar LineageOS ac felly mae yn cynnwys cyfieithiadau Cymraeg AOSP a LineageOS. Mae datblygwyr yn cymryd y ffeiliau Cymraeg o brosiect LineageOS ar Github yn hytrach na’n uniongyrchol o CrowdIn ac felly dyw’r Gymraeg yn /e/ ddim mor gyfredol a chyflawn â LineageOS.

Yn anffodus, mae adeileddau /e/ ar hyn o bryd yn cynnwys ffeil lleoleiddiad Cymraeg gyda gwall ynddi ac o ganlyniad mae’r rhyngwyneb yn rhewi pob tro mae unrhyw beth yn cael ei gysylltu at USB y ddyfais. Cafodd y broblem hon ei darganfod a’i chywiro yn y ffeil ar CrowdIn nôl ym mis Hydref 2018, felly mae hyn yn rhoi syniad pa mor hen yw rhai o’r ffeiliau Cymraeg yn /e/. Mae degau o filoedd o eiriau hefyd wedi eu cyfieithu ers hynny. Felly os ydych yn gosod /e/ ar ddyfais, byddwch yn dal i weld dipyn o Saesneg nes bod datblygwyr wedi mewnforio’r ffeiliau Cymraeg mwyaf diweddar.

 

Unrhyw gwestiynau?

5 sylw

  1. Efallai bod modd cyflymu’r broses o gynnwys dy gyfieithiadau newydd yn y prosiect trwy wneud cais cyfuno Git. Dw i wrthi’n chwilio am y brosiect ar Github i weld os mae hyn yn bosibl.

    Diolch o galon am gyfrannu at hyn Aled (ac eraill)!

  2. Mae’r mewnforio o’r cyfieithiadau a holl newidiadau eraill i god LineageOS yn cael eu gwneud trwy gerrit.

    Mae’r cyfnodau rhwng mewnforio’r cyfieithiadau yn handi o safbwynt y gwaith lleoleiddio, a dweud y gwir. Ond dw i yn adeiladu fy ROMs answyddogol fy hun weithiau pan dw i’n awyddus a methu aros i brofi a gweld sut mae rhywbeth yn edrych yn y ROMs swyddogol.

  3. Llongyfarchiadau mawr ar y gwaith yma Aled!

    Rwy wedi gosod LineageOS ar Nexus 4 sydd gen i ac mae’n grêt.

    Mae’n rhedeg LineageOS 15.1 gan nad yw 16 ar gael, hyd yma ar gyfer y ffôn yma. Fel ti’n awgrymu mae ROM yr /e/ Foundation yn hŷn, mae ar Android 7.1.2 a does dim cymaint o’r cyfieithiad ar gael ar hwnnw.

    Mae’n handi gallu uwchraddio hen ffôn o 2014 i’r Android diweddaraf a chael rhyngwyneb Cymraeg. 🙂

  4. Mae pob fersiwn o AOSP ac addasiadau LineageOS wedi’u lleoleiddio 100% erbyn hyn.

    Ond mae nifer o dermau dw i jyst wedi’u cynnig er mwyn gyrru ymlaen. Dw i wir angen help gyda thermau ffotograffiaeth yn arbennig. Termau am dechnegau digidol cyfoes, hynny yw. Oes arbenigwr neu adnodd rhywle?

    Mae’n hanfodol bod eraill yn defnyddio LineageOS yn Gymraeg ac yn cynnig gwelliannau. Ond peidiwch â mynd ati i jyst eto. Dyw’r cyfieithiadau Cymraeg cyflawn heb eu mewnforio eto. Byddaf yn cyhoeddi cofnod newydd yma ac Haciaith pan fydd hynny wedi digwydd.

    Nodyn am LineageOS 14.1 – Am fod hwn yn fersiwn hyn, nid yw’n cael ei ddiweddaru mor aml. Dyw’r ffeiliau Cymraeg heb eu diweddaru ers 15 Hydref ac felly mae’r system yn dal i gynnwys gwall cafodd ei gywiro ar 5 Tachwedd. Yn Gymraeg, bydd y rhyngwyneb yn chwalu pob tro mae rhywbeth yn cael ei gysylltu â’r porth micro USB, sy’n golygu bod rhaid troi’r system i iaith arall pob tro chi’n gwefru neu gysylltu â chyfrifiadur. Bydd diweddariad yn fuan.

Mae'r sylwadau wedi cau.