Rhoi Eicon Common Voice ar Sgrin y Ffôn neu Dabled

Mae’n haws cofio i recordion ar Common Voice gyda eicon ar sgrin y ffôn neu dabled er mwyn cofio. Sut mae gwneud?

Ffwrdd â ni…

Firefox Android

Agor yr ap a thapio’r botwm  dewislen tri dot ar y dde, dewis Tudalen a thapio Creu Llwybr Byr Tudalen. Dyna ni, bydd eicon Mozilla’n ymddangos ar sgrin cartref eich dyfais.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Chrome Android

Tapio’r botwm dewislen a thapio Add to Home Screen. Byddwch hefyd yn gallu gosod enw i’r llwybr hyr a bydd Chrome yn e ychwanegu i’ch sgrin cartref.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Apple iPhone, iPad ac iPod Touch(?)

Agor porwr Safari a mynd i wefan Common Voice Cymraeg Tapio’r botwm rhannu, y sgwâr gyda’r saeth ar i fyny, tapio ar Add to Home Screen a bydd y llwybr byr yn ymddangos ar sgrin y ffôn neu’r iPad.

Mae modd cael Firefox ar gyfer iPhone, iPad ac mae’r cyfarwyddiadau yr un peth a Firefox Android.

  • Mae yna Ap ar gael ar gyfer Common Voice yn yr App Store ar gyfer iOS 10+. Nid yw’n gweithio gyda ffonau a thabledi hŷn – rhaid defnyddio Safari.

*Does gen i ddim teclyn Apple cyfoes wrth law i gael lluniau allan ohono, ymddiheuriadau.

*Mae’r cyfarwyddiadau yma’n gweithio ar gyfer unrhyw dudalen gwe. 🙂