LibreOffice 6.2

Croeso i’r Bar Adnoddau!

Mae LibreOffice 6.2 yn cynnwys cynllun rhyngwyneb defnyddiwr newydd – dewisol – o’r enw’r Bar Adnoddau.. Mae’n uno’r barau offer a’u grwpio i dabiau, gan eich cynorthwyo i weithio’n gynt a chlyfrach. Gwyliwch y fideo er mwyn gweld y bar ar waith a sut mae modd i chi ei brofi.

 https://youtu.be/6HUnR5IoAQk

Prosesu geiriau ar y lefel nesaf

Yn Writer, pan fyddwch yn tracio newidiadau mewn dogfen, mae’r perfformiad llawer yn gynt – yn arbennig  mewn dogfennau mawrion. Hefyd, gallwch ludo data taenlenni’n syth i dabl cyfredol (yn lle fel gwrthrych, testun plaen neu dabl newydd). Mae LibreLogo, y rhyngwyneb rhaglennu ar gyfer cynllunio graffig ac addysg wedi cael profi unedau, mae’r crynhowr hefyd wedi cael nifer o welliannau defnyddiol.

Ewch â’ch taenlenni ymhellach

Yn Calc, mae nawr yn bosibl gwneud ddadansoddiadau atchweliad amrywebol gan ddefnyddio’r teclyn atchwelydol. Mae llawer mwy o fesurau ystadegol ar gael yn yr allbwn dadansoddi, tra bod dilysu data nawr yn cynnwys fformiwlâu cyfaddas.

Yn olaf, mae swyddogaeth newydd REGEX wedi ei ychwanegu, i gyfatebu tewstun i fynegiad rheolaidd ac o ddewis i gymryd ei le.

Cyflwyniadau a lluniadau caboledig

Tra’ch bod yn golygu animeiddiad yn Impress, gallwch nawr newid  y llwybr symud drwy lusgo ei bwyntiau rheoli, Hefyd, mae nifer o arddulliau lluniadu testunau wedi eu hychwanegu, tra bod dewislen Tabl wedi ei ychwanegu i’r ddewislen Fformat yn Draw.

LibreOffice Ar-lein – eich offer swyddfa, yn unrhyw le

Yn LibreOffice Ar-lei, fersiwn y cwmwl o LibreOffice, mae rhyngwyneb y defnyddiwr wedi ei symleiddio ar gyfer ei ddefnyddio ar ddyfeisiau symudol, gyda gwell ymatebolrwydd a diweddariadau i’r bysellfwrdd ar-lein. Yn y cyfamser, mae diogelwch wedi ei gryfhau gyda dilysu sy’n cydweddu â Verisign a llofnodi dogfennau ynghyda â bar gwybodaeth llofnodi newydd, wedi eu hychwanegu.