LineageOS – Android 100% yn Gymraeg, ond…

Mae pob gair o’r Android Open Source Project a LineageOS erbyn hyn wedi’u lleoleiddio ac Android ar gael am y tro cyntaf yn llawn yn Gymraeg*. Ond mae dal wir angen eich help chi i gywiro a gwella ambell beth.

Lineage 15.1 a 16.0

Mae ROMs swyddogol 16.0 nawr yn cael eu hadeiladu yn ddyddiol a 15.1 wedi eu israddio i gael eu hadeiladu yn wythnosol. Cafodd y cyfieithiadau 100% Cymraeg eu mewnforio 11 Mawrth felly dylai fod unrhyw ROM wedi’i adeiladu o 12 Mawrth gyda’r Gymraeg yn 100%.

*Ond, er bod pob gair o AOSP a LineageOS wedi’i lleoleiddio, mae ambell ddarn yn parhau i ymddangos yn Saesneg. Mae rhai yn ymddangos mewn llefydd amlwg, e.e. y dewis ‘Advanced’ yn y gosodiadau ac ambell beth dan ‘App Permissions’, ond mae’n debyg bod eraill yn llai amlwg i’w darganfod. Ga’i ofyn i chi plîs rhoi gwybod i mi am enghreifftiau. Anfon sgrinlun ata’i sydd orau. Dw i’n cydweithio â datblygwyr i’w cywiro.

LineageOS 14.1

Mae datblygiad a diweddariadau’r fersiwn hwn wedi dod i ben dechrau mis Chwefror. Mae’r ROMs swyddogol olaf yn rhannol yn Gymraeg ond yn cynnwys gwall.
15 Hydref 2018 – Mewnforiwyd y cyfieithiadau Cymraeg (tua 75% cyflawn, gyda gwall).
5 Tachwedd 2018 – Cywiriwyd camgymeriad yn un o’r ffeiliau Cymraeg sy’n achosi problem wrth gysylltu USB.
19 Ionawr 2019 – Ychwanegwyd y Gymraeg fel dewis yn y rhestr ieithoedd.
7 Chwefror 2019 – Adeiladwyd y fersiwn swyddogol olaf.
12 Mawrth 2019 – Mewnforiwyd y cyfieithiadau Cymraeg (100% a dim gwallau).
Beth mae hyn yn golygu yw os ydych yn gosod a defnyddio ROM swyddogol wedi’i adeiladu rhwng 19 Ionawr a 7 Chwefror mi fydd yn rhannol yn Gymraeg ond gyda gwall. Bydd y rhyngwyneb yn stopio gweithio pan fo unrhyw beth yn cael ei gysylltu â’r micro USB, felly rhaid newid i iaith arall bob tro chi’n gwefru neu gysylltu i drosglwyddo ffeiliau. Yn anffodus, ni fydd rhagor o ROMs swyddogol, ond mae yn bosib adeiladu ROMs answyddogol o 12 Mawrth gyda’r Gymraeg yn gyflawn ac heb y gwall. Dw i’n gallu adeiladu rhain os oes angen ar unrhyw un, e.e. os nad yw 15.1 neu 16.0 ar gael ar gyfer eich dyfais.

LineageOS: https://lineageos.org/

Lleoleiddio: https://crowdin.com/profile/LineageOS