WordPress 5.1

Mae WordPress ar garlam i gael y golygydd newydd “Gutenberg” yn ei le yn ddiogel ac yn gweithio’n dda. Dyma ail ran o’r datblygiad a bydd rhan arall yn cyrraedd ddiwedd Ebrill, gyda WordPress 5.2.

Bosib bydd rhai ohonon ni’n cadw at yr hen drefn nes bod y drefn newydd i gyd yn ei le – Classic Editor, sydd hefyd ar gael yn Gymraeg. 😉

Dyma’r blyrb am y diweddariadau:

Ychydig yn Well Bob Dydd

Rydych wedi uwchraddio’n llwyddiannus i WordPress 5.1! Yn dilyn WordPress 5.0 – ryddhad mawr a gyflwynodd y golygydd bloc newydd – me 5.1 yn canolbwyntio ar sglein, yn enwedig trwy wella perfformiad cyffredinol y golygydd. Yn ogystal, mae’r ryddhad hwn yn dangos y ffordd ar gyfer WordPress gwell, cyflymach a mwy diogel gyda rhai offer hanfodol ar gyfer gweinyddwyr gwefannau a datblygwyr.

Iechyd y Wefan

Gyda diogelwch a chyflymder mewn cof, mae’r datganiad hwn yn cyflwyno nodweddion Iechyd Gwefannau cyntaf WordPress. Bydd WordPress yn dechrau dangos hysbysiadau i weinyddwyr gwefannau sy’n rhedeg fersiynau diweddar o PHP, sef yr iaith raglennu sy’n gyrru WordPress.

Wrth osod ategion newydd, bydd nodweddion Iechyd y Wefan WordPress yn gwirio a oes angen fersiwn o PHP sy’n anghydnaws â’ch gwefan os oes angen ategyn. Os felly, bydd WordPress yn eich atal rhag gosod yr ategyn hwnnw.

Dysgu rhagor am ddiweddaru PHP

Perfformiad y Golygydd

Wedi ei gyflwyno yn WordPress 5.0, mae’r golygydd bloc newydd yn parhau i wella. Yn fwyaf arwyddocaol, mae WordPress 5.1 yn cynnwys gwelliannau perfformiad cadarn yn y golygydd. Dylai’r golygydd deimlo ychydig yn gynt i ddechrau, a dylai teipio deimlo’n llyfnach. Serch hynny, disgwyliwch fwy o welliannau perfformiad yn y fersiynau nesaf.

Adeiladu eich cofnod gyntaf


Hapusrwydd Datblygwyr

Metadata Aml Wefan

Mae 5.1 yn cyflwyno tabl cronfa ddata newydd i storio metadata sy’n gysylltiedig â gwefannau ac yn caniatáu storio data gefan mympwyol sy’n berthnasol mewn cyd-destun aml wefan / rhwydwaith.
Darllen rhagor.

API Cron

Mae’r Cron API wedi’i ddiweddaru gyda swyddogaethau newydd i gynorthwyo wrth ddychwelyd data ac mae’n cynnwys hidlwyr newydd ar gyfer newid storio cron. Mae newidiadau eraill mewn ymddygiad yn effeithio ar bario chron ar weinyddion sy’n rhedeg fersiynau FastCGI a PHP-FPM 7.0.16 ac uwch.
Darllen rhagor.

Prosesau Adeiladu JS Newydd

Mae WordPress 5.1 yn cynnwys opsiwn adeiladu JavaScript newydd, yn dilyn ad-drefnu cod mawr yn ryddhad 5.0.
Darllen rhagor.

Manteision Datblygwr Eraill

Mae gwelliannau amrywiol yn cynnwys diweddariadau i werthoedd ar gyfer cysonyn WP_DEBUG_LOG , ffeil ffurfweddu prawf newydd yn gyson yn y gyfres brawf, bachau gweithredu teclyn newydd, hidlwyr byr-gylched ar gyfer wp_unique_post_slug() a WP_User_Query a count_users() , swyddogaeth human_readable_duration newydd, tacsonomeg gwella glanhau metabox , cymorth LIKE cyfyngedig ar gyfer meta allweddi wrth ddefnyddio WP_Meta_Query , rhybudd “ei wneud yn anghywir” newydd wrth gofrestru diweddbwyntiau API REST, a mwy!
Darllen rhagor.

Dysgu sut i gychwyn