Cadw Google a Facebook yn eu lle…

Wyddoch chi fod cwmnïau mawr y we yn eich dilyn o amgylch y we, yn casglu tystiolaeth o’ch ymddygiad ar-lein ac yn ei werthu i hysbysebwyr? Mwyaf o ddata sydd gan hysbysebwyr mwyaf effeithiol mae nhw’n credu y gallan nhw eich targedu.

Mae’n fusnes mawr, mae’r biliynau o elw wnaeth Google a Facebook yn seiliedig yn llwyr ar hyn. Does dim modd gwneud llawer o arian ar-lein heblaw eich bod yn gwerthu data i hysbysebwyr.

Mae Google wedi bod yn gwneud hyn ers o leiaf 2004, felly meddyliwch faint o ddata mae nhw wedi ei werthu amdanoch chi. Ydyn nhw wedi gofyn eich caniatâd? Na.

Oes na rhywbeth mae modd ei wneud i ddiogelu rhywfaint o’n hunain?

Oes, mae Mozilla, y cwmni tu ôl i’r porwr Firefox a Common Voice, y rhaglen casglu lleisiau wedi ryddhau cynhwysydd – container – arbennig  i gyfyngu ar allu’r cwmnïau hyn i gipio data eich pori i’w gwefan eu hunain. Mae gan y cwmnïau hyn y gallu i’ch dilyn o amgylch y we heb eich bod wedi ymweld a’u gwefan nhw eu hunain.

Mae’r Facebook Container yn ychwanegyn ar gyfer Firefox ar y cyfrifiadur a’r ffôn/tabled. Mae’n agor pan ewch ci i wefan Facebook ac mae’n cyfyngu gallu Facebook i’ch tracio chi tua allan i’w gwefan. Fel arall, mae gan y cwmnïau hyn y gallu i’ch dilyn o amgylch y we heb eich bod wedi ymweld a’u gwefan nhw eu hunain, hyd yn oed.

Mae’r Google Container a’r Twitter Container yn ddatblygiadau o gynhwysydd Facebook ar gyfer y gwefannau/gwasanaethau hynny.

Unrhyw beth arall? Defnyddiwch ychwanegyn atal hysbysebion uBlock Origin a Privacy Badger sy’n dysgu pa dracwyr sy’n eich dilyn ac yn eu rhwystro.

Ac wrth gwrs, defnyddiwch Firefox fel eich porwr ar-lein, mae’n gyflym, yn ddiogel ac yn Gymraeg.