Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn 3: Technoleg lleferydd

Delyth Prys yn cyflwyno yn lle Rhos ei gwr, sy’n brysur iawn gyda lleoleiddio. (Helo Rhos gan bawb yma gyda llaw!)

Tra yn Berlin yn son am eu gwaith ar yr ap Paldaruo, clywodd cynrychiolwyr Mozilla am hyn. Sonio’n nhw am Common Voice, ble roedd 20,000 wedi cyfrannu at gynnwys Saesneg. Perswadwyd Mozilla i agor Common Voice i ieithoedd eraill.

dal ffonemau unigryw oedd nod Paldaruo, drwy nodi geiriau neu ymadroddion ‘rhyfedd’ a geiriau benthyg. Common Voice eisiau casglu data mwy safonol.

Beth yw Common Voice

Sefydliad Mozilla eisiau sicrhau bod pob iaith yn cael eu trin yr un fath. Anodd i ieithoedd llai fod a digon o swmp o gynnwys.

Nod cyntaf ar gyfer y Gymraeg yw 100 awr wedi’i ddilysu. 40 awr wedi’i gyfrannu a 32 awr wedi’i ddilysu sydd ar hyn o bryd. Bwlch yn agor, ac mae angen ei gau.

Gorau po fwyaf o amrywiaeth lleisiau (dynion/merched, acenion de/gogledd, lleisiau pobl o bob oedran. Hefyd mae gwerth cyfrannu pan mae swn cefndir.)

Buom yn gwrando ar rai cyfraniadau ac yn eu dilysu.

Angen help ar ieithoedd llai eraill (e.e. Gwyddeleg a Llydaweg).Hyd yn oed os nad ydych yn rhugl, efallai gallwch helpu ar yr ochr dilysu

 

Yna siaradodd Dewi Bryn Jones am brosiectau lleferydd Uned Technoleg Iaith Canolfan Bedwyr

Hyfforddi adnabod lleferydd, Deep Speech gan Mozilla.

Sgwrsfot. Dau gam: Adnabod bwriado fewn testun cwestiwn. Estyn gwybodaeth o wefan neu drydydd part