One, two…One, two…testing…Y Darllediad Byw!

Rhwng 12-1pm ar ddydd Sadwrn, byddwn ni’n darlledu’n fyw o Hacio’r Iaith. Criw podlediad Metastwnsh fydd yno, yn mynd trwy eu petha, gan edrych ar bynciau llosg technolegol y dydd. Dwi’n credu mod i’n iawn i ddweud y bydd Bryn, Iestyn, Sioned, a Rhys yn cynrychioli. Gair.

Mae’r ffrydio yn dod i chi drwy garedigrwydd Cymdeithas y Rhyfeddod, a Gwion Llwyd. Diolch chief!

Gallwch un ai wylio ar wefan Ustream, ar y tudalen Darllediad Byw neu ar flog Metastwnsh. Croeso i chi ei fewnosod ar eich blog eich hunain hefyd. Ond gwnewch yn siwr eich bod yn rhannu’r dolenni fel bod pawb sydd ddim yn gallu dod yn gallu gwylio chydig o gyffro’r diwrnod.