Yn cyhoeddi…Y Poster

Felly dyma’r poster ar gyfer y digwyddiad. Kudos *hiwj* i Iestyn Lloyd yn Sbellcheck (ac un o gyfrannwyr diweddara Metastwnsh) am ddylunio fo i ni, ac am wneud y logo bach cŵl yn y gornel dop chwith.

Dwi’n siwr bydd y digwyddiad yr un mor ôssym, os ychydig llai sinematig, na’r poster.

Revenge of the Nerds, Hackers neu The Matrix? Gewch chi ddewis, ond mae Rhys Wynne yn gwbod Kung Fu…a dwi’n siwr i fi weld ambell glitch wrth siarad efo Bryn Salisbury…

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.