Apton – cipolwg ar ap ffrydio Recordiau Sain

Ydy unrhyw un sy’n darllen hwn wedi ceisio Apton eto? Oes unrhyw argraffiadau cynnar? Oes ‘na lle yn eich bywyd am ap o’r fath a ffordd arall o chwarae tiwns? Dros y penwythnos ffeindiais i amser (rhwng syllu ar eitemau newyddion) i chwarae cwpl o diwns arno fe. Gyda llaw beth geisio sbarduno rhagor o sgyrsiau yn y… Parhau i ddarllen Apton – cipolwg ar ap ffrydio Recordiau Sain

Llywodraeth, digidol ac arloesedd – fideo o gyflwyniad gan Leighton Andrews

Diolch i bawb am gymryd rhan yn Hacio’r Iaith 2017 ac i Ganolfan Bedwyr a chanolfan Pontio am ein croesawu! Dyma i chi fideo o gyflwyniad agoriadol Leighton Andrews yn Hacio’r Iaith 2017. Mae rhestr o fideos eraill o’r Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg ddydd Gwener hefyd (diolch Stefano). Mae croeso i unrhyw gyfranog[wraig|wr] bostio meddyliau… Parhau i ddarllen Llywodraeth, digidol ac arloesedd – fideo o gyflwyniad gan Leighton Andrews

Hacio’r Iaith 2017 ym Mangor: cipolwg ar sesiynau

Mae Hacio’r Iaith 2017 yn agosáu! Bydd croeso cynnes i bawb a mynediad am ddim (nid y band) ddydd Sadwrn yma. Ond mae angen cofrestru nawr… Cofrestru Mae angen cofrestru os ydych chi am fynychu a chymryd rhan (yn Adeilad Pontio, Bangor, ar Sadwrn, 21 Ionawr 2017). Mae llawer o lefydd wedi mynd eisoes ac… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2017 ym Mangor: cipolwg ar sesiynau

Bydd Hacio Iaith 2017 ar ddydd Sadwrn 21 Ionawr yng Nghanolfan Pontio, Bangor

Dyma neges fach sydyn i ddatgan ein bod ni wedi cadarnhau dyddiad a lleoliad Hacio’r Iaith 2017! Bydd croeso cynnes i bawb fynychu a chymryd rhan mewn cyfres o sesiynau, gweithdai, trafodaethau a chyflwyniadau am ddefnydd o’r Gymraeg yn y cyfryngau digidol. Bydd rhagor o fanylion gan gynnwys cofrestru cyn hir. Yn y cyfamser cadwch… Parhau i ddarllen Bydd Hacio Iaith 2017 ar ddydd Sadwrn 21 Ionawr yng Nghanolfan Pontio, Bangor

Diwrnod Ada Lovelace 2016 #diwrnodAdaLovelace

Dyma nodyn bach sydyn i’ch atgoffa bod Diwrnod Ada Lovelace yn digwydd ddydd Mawrth 11fed o Hydref 2016. Mae’r diwrnod yn gyfle i bostio rhywbeth ar y we am lwyddiannau menywod yn y meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Beth am gymryd rhan drwy drydar, blogio neu bostio am fenyw rydych chi’n edmygu? Mae rhagor… Parhau i ddarllen Diwrnod Ada Lovelace 2016 #diwrnodAdaLovelace

Hacio'r Iaith 2017? Angen adborth

Tri chynnig: 1. Oes gennych chi awydd mynychu a chymryd rhan mewn digwyddiad Hacio’r Iaith yn 2017? Dyma fydd yr wythfed digwyddiad mawr o’r fath – digwyddiad anffurfiol ar Gymraeg a thechnoleg i oddeutu 60 o bobl. Byddai croeso cynnes i bawb. 2. Rydyn ni’n edrych at Fangor fel lleoliad y tro yma. Rydyn ni… Parhau i ddarllen Hacio'r Iaith 2017? Angen adborth

Diodydd Hacio’r Iaith #steddfod2016

Ydych chi’n mynychu Eisteddfod Y Fenni 2016? Bydd criw ohonom ni yn cwrdd am ddiodydd ar y maes ar y dydd Mercher. Bydd croeso cynnes i bawb. Does dim agenda. Bydd hi’n gyfle i sgwrsio â phobl eraill sy’n hoffi: defnyddio’r we a’r chyfryngau digidol yn Gymraeg memynnau, fideo, cynnwys apiau gemau ymgyrchu ar y… Parhau i ddarllen Diodydd Hacio’r Iaith #steddfod2016

S4C – Sianel Pwy? #steddfod2016

Dyma wybodaeth wrth Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am drafodaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 sy’n siŵr o gynnwys triniaeth o’r we a chyfryngau digidol: Annwyl gyfaill, Yn yr Eisteddfod byddwn yn cynnal cyfarfod cyhoeddus i drafod adolygiad Llywodraeth Prydain o S4C yn 2017, gan gynnwys mentrau digidol newydd posib a materion cynnwys megis polisi is-deitlau’r sianel.… Parhau i ddarllen S4C – Sianel Pwy? #steddfod2016

Holiadur BydTermCymru

I’r rhai sy’n licio terminoleg a chyfieithu, Llywodraeth Cymru yn dweud: O fis Mehefin ymlaen byddwn yn gweithio ar Gam 2 gwefan BydTermCymru – sef cywiro’r gwallau technegol sy’n weddill ac efallai wneud rhai addasiadau i’r dyluniad. Y cam nesaf wedi hynny fydd mynd ati i fireinio’r adnoddau sydd ar gael ar y wefan, a… Parhau i ddarllen Holiadur BydTermCymru