Bydd Hacio Iaith 2017 ar ddydd Sadwrn 21 Ionawr yng Nghanolfan Pontio, Bangor

garry

Dyma neges fach sydyn i ddatgan ein bod ni wedi cadarnhau dyddiad a lleoliad Hacio’r Iaith 2017!

Bydd croeso cynnes i bawb fynychu a chymryd rhan mewn cyfres o sesiynau, gweithdai, trafodaethau a chyflwyniadau am ddefnydd o’r Gymraeg yn y cyfryngau digidol.

Bydd rhagor o fanylion gan gynnwys cofrestru cyn hir.

Yn y cyfamser cadwch y dyddiad isod yn rhydd.


Hacio’r Iaith 2017
Dydd Sadwrn 21 Ionawr 2017
Pontio, Bangor, Cymru, Ewrop

Mae sôn hefyd gan un o ein ffrindiau am gynhadledd mwy ‘ffurfiol’ er diddorol am stwff digidol ar ddydd Gwener 20 ym Mangor gyda rhagor o fanylion am hyn i’w dilyn hefyd.

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.