Sesiwn agored arloesedd Ofcom, Caerdydd, 13 Chwefror 2018

Dyma fanylion am ddigwyddiad Ofcom dw i newydd weld: Sesiwn Agored Arloesedd Ofcom – CAERDYDD Dydd Mawrth 13 Chwefror 2018 6:30pm – 8:30pm Rheoleiddiwr telegyfathrebu prif ffrwd, symudol, band-eang, teledu, radio a gwasanaethau-ar-alw y Deyrnas Gyfunol yw Ofcom . Eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod pobl y DG yn cael y dewis orau o wasanaethau… Parhau i ddarllen Sesiwn agored arloesedd Ofcom, Caerdydd, 13 Chwefror 2018

Hacio’r Iaith 2018 – diolch o galon

Diolch o galon i holl fynychwyr a chyd-drefnwyr Hacio’r Iaith 2018 am ddigwyddiad arddechog ddoe! Byddaf i’n cnoi cil dros eich cyflwyniadau a’r trafodaethau am y flwyddyn i ddod! Pigion Dyma ddetholiad o’r hyn a drafodwyd (sy’n anghyflawn dw i’n gwybod). #haciaith Oni falch o cal bod yna i gynrychioli nid yn unig merched ym… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2018 – diolch o galon

Rhannu llyfrau Cymraeg – gwersi o Norwy

Mae Hacio’r Iaith 2018 newydd ddechrau! Diolch o galon Andrew Green am gyflwyniad hynod ddiddorol bore yma am ei hanes mewn llyfrgelloedd, yn enwedig ei sôn am brosiect Norwyaidd i ddigido holl lyfrau Norwyeg, a’r syniad cyffrous iawn o ganfod ffordd o roi pob llyfr Cymraeg ar y we. Mae hyn yn sicr yn rywbeth… Parhau i ddarllen Rhannu llyfrau Cymraeg – gwersi o Norwy

Mae Hacio’r Iaith bellach ar .cymru

Dw i newydd symud gwefan Hacio’r Iaith i’r enw parth haciaith.cymru (un o’r pethau sydd wedi bod ar fy rhestr o bethau i’w gwneud ers sbêl!). Dylai dolenni at yr hen enw fynd yn awtomatig at yr enw newydd. Hynny yw mae haciaith.com/X yn mynd i haciaith.cymru/X Gadewch wybod os ydych chi’n gweld unrhyw wallau… Parhau i ddarllen Mae Hacio’r Iaith bellach ar .cymru

Yn cyflwyno… Diwrnod Ada Lovelace 2017 #ALD17

Dydd Mawrth 10fed Hydref fydd Diwrnod Ada Lovelace 2017, diwrnod o flogio a thrydar er mwyn tynnu sylw at lwyddiannau menywod mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Am ba fenyw ydych chi am flogio neu drydar? Fe fydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn gwaith celf torfol ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae hyn yn ogystal â llwythi… Parhau i ddarllen Yn cyflwyno… Diwrnod Ada Lovelace 2017 #ALD17

Y Cymro – archif ar-lein yn fyw

Mae dyfodol papur newydd Y Cymro yn ansicr ond mae grŵp Cyfeillion y Cymro wedi ei sefydlu i’w ail-lansio. Yn y cyfamser mae rhywun sy’n cysylltiedig â chwmni Tindle wedi tynnu’r plwg ar wefan Y Cymro yr wythnos hon – heb unrhyw rybudd na seremoni! Yn sydyn diflanodd dros 4500 o dudalennau oddi ar y… Parhau i ddarllen Y Cymro – archif ar-lein yn fyw

Twitter Lite – y ffordd gyflymaf o ddefnyddio Twitter ar gysylltiad gwan

Mae cwmni Twitter newydd lansio fersiwn Lite o’i wefan: https://twitter.com/Twitter/status/849866660882206721 Mae hi’n berffaith ar gyfer llefydd heb gysylltiad da – sydd o hyd yn cynnwys llawer iawn o gefn gwlad Cymru. Ewch i https://mobile.twitter.com i weld pa mor gyflym mae’r ap ar y we yn dangos eich ffrwd. Mae opsiwn aral o droi delweddau bant… Parhau i ddarllen Twitter Lite – y ffordd gyflymaf o ddefnyddio Twitter ar gysylltiad gwan

Rhowch 3 munud i helpu @Wicipedia Cymraeg

Helpwch Wicipedia Cymraeg trwy lenwi’r arolwg byr hwn yn ddi-enw os gwelwch yn dda: https://wikimedia.qualtrics.com/jfe/form/SV_1ZCNjkrqwRvxFrf Dylai fe gymryd rhyw dri munud i’w gwblhau. Diolch o galon i chi!

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol Cofnodion wedi'u tagio

Defnyddio archif cyfryngol i gefnogi pobl gyda dementia a gofalwyr

Dw i newydd glywed am brosiect archif y BBC i gefnogi pobl gyda dementia a’i gofalwyr. Mae’n swnio fel ffordd dda o sbarduno sgyrsiau mewn ffordd naturiol gyda phobl drwy fanteisio ar hen glipiau mewn system atgofion (gadewch sylw isod os oes term gwell na ‘system atgofion’). Dyma’r esboniad o’r wefan: Welcome to the BBC… Parhau i ddarllen Defnyddio archif cyfryngol i gefnogi pobl gyda dementia a gofalwyr