‘Dolgelley’? ‘Carnarvon’? BBC Map 3G

Sgwrs am BBC Map 3G newydd:

http://twitter.com/#!/llef/status/106344557943328768

http://twitter.com/#!/llef/status/106345336318066690

http://twitter.com/#!/dafyddt/status/106346667275599872

Mae Microsoft yn eithaf da fel arfer gyda darpariaeth Cymraeg ar Windows, nawr gawn ni termau llefydd safonol ar Bing?

Neu oes angen defnyddio rhywbeth amgen fel Google Maps neu OpenStreetMap yn lle? Mae’n dibynnu ar y cytundeb rhwng BBC a Microsoft sbo.

DIWEDDARIAD 25/08/2011: Mae Dave Coplin o Microsoft wedi ateb:
http://twitter.com/#!/dcoplin/status/106663906725998592

7 sylw

  1. Mae’r map yn gwbl random, mae’n nhw’n rhoi enw Cyrmaeg a Saeseng Yr Wyddgrug/Mold, ond mond Denbigh a Ruthin., a wedyn mae’r ddau enghraifft uchod, + Port Dinorwic (Y Felinheli) – sut ar y ddaear wnaeth y rheini wneud eu ffordd ar y map!

    Ond os defnyddyddio OpenStreetMap, dylid defnyddio’r OpenStreetMap Cymraeg.

  2. Ymddiheuriadau am y gwaeddi gwirion uchod, ond ges i chydig o sioc. Yn amlwg do’n i heb sbio digon agos o’r blaen!

  3. Wnes i gwyno i Bing am hyn yn ddiweddar (ddim posib cael ateb ganddyn nhw chwaith). Mae’n bach o cop-out son am Navteq. Mae’r wybodaeth ddiweddar gan Navteq ( fan hyn) yn gwbl gywir felly mae MS yn cymryd rhyw hen hen gopi ganddyn nhw.

  4. I know some of you may feel the Navteq thing feels like a cop-out, and I get that they show an updated version on their site. But the truth is we get our map data from Navteq, we provide a platform for the maps, but we don’t make the map data. Regardless, I’ll get to the bottom of the problem and report back as soon as I hear. Feel free to tweet me if you have more feedback. Cheers

    Dave

  5. Mae’r wybodaeth ddiweddar gan Navteq ( fan hyn) yn gwbl gywir felly mae MS yn cymryd rhyw hen hen gopi ganddyn nhw.

    Mae Caernarfon, Dolgellau a’r Felilnheli bellach yn dangos eu ffurfiau cywir, ond tydy’r map yna rwan ddim yn dangos enwau Cymraeg pan mae gan le enw gwahanol yn y ddwy iaith. Os chwiliwch am ‘Dinbych’, ‘Yr Wyddgrug’ a ‘Treffynnon’, mae o yn mynd a chi i ‘Denbigh’, ‘Mold’ neu ‘Holywell’, ond os chwiliwch am ‘Rhuthu’ aiff o didm a chi i ‘Ruthin’. Heb chwilio am lefydd eraill.

  6. Ydi, ond mae hynny yn wir am Google a cwmniau mapio eraill. Mae nhw’n gwybod sut i fapio yr enwau Cymraeg i Saesneg ar y cyfan ond ddim yn dangos hynny ar y map. Dwi ddim yn siwr o le mae’r wybodaeth hynny’n dod. Dwi’n amau mai rhestrau o’r awdurdodau lleol sy’n penderfynu hynny. Mae nifer o strydoedd Caerdydd yn dangos enwau dwyieithog ar Google er enghraifft ond does dim cysondeb.

Mae'r sylwadau wedi cau.