Haclediad #33: Ho-ho-haclediad

Croeso i rifyn Nadolig yr Haclediad! Byddwn ni’n rhoi sbin tymhorol ar newyddion y mis – Grantiau technoleg y Cynulliad, gêm Gymraeg ar Steam, brwydro’r Xbox vs PS4 a llawer mwy. Bydd Bryn yn deud ei jôcs gorau ac yn awgrymu gemau bwrdd (www hw!), Iestyn yn rhedeg allan o wisgi a Sioned yn trio… Parhau i ddarllen Haclediad #33: Ho-ho-haclediad

Haclediad #32: Pwdin Mwyar duon ac iOS7 Afal

Yn Haclediad 32 bydd Iestyn, Sioned a Bryn yn trafod gwerthu cwmni Blackberry am llai na mae Apple yn neud mewn blwyddyn, update diweddaraf iFfôn a Bryn yn ymuno â byd Android. Wrth gwrs bydd hefyd y cyfuniad gorau o sgwrs a nonsans i’ch clustiau – mwynhewch!

Haclediad #31: Anturiaethau 4G a HalfArsedCymru

Wedi rhifyn byw’r eisteddfod, mae’r criw nôl yng Nghaerdydd, Llundain a Chaernarfon am rifyn diweddara’r haclediad! Bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod 4G yn cyrraedd, mwy o esiamplau o brosiectau a gwefannau Half Arsed Cymru, a bydd Bryn Blin yn ailymuno efo’r criw yn achlysurol – ond rhaid gwrando i weld pam! 4G Buers… Parhau i ddarllen Haclediad #31: Anturiaethau 4G a HalfArsedCymru

Haclediad #30: Yn Fyw o’r M@es

Helo a chroeso i rhifyn arbenig o’r Haclediad yn fyw o faes yr Eisteddfod. Yn anffodus roedd Sioned methu bod efo ni, ond yn lwcus doedd dim alcohol, felly cadwodd Bryn a fina eithaf call. Rydym yn sgwrsio efo Kim Jones o Technocamps sydd yn helpu dysgu plant am gyfrifiaduron, robots a pob fathau o… Parhau i ddarllen Haclediad #30: Yn Fyw o’r M@es

Haclediad #29: Yr Un Preifat

Y tro yma ar yr Haclediad, yn ogystal â thrafod pa cocktail yn union mae Iestyn wedi paratoi, a pha ‘vintage’ o chwisgi sy’ gan Bryn; byddwn ni’n edrych ar sefyllfa band eang Cymru, cymryd cipolwg ar wythnos ddigidol Caerdydd a holi beth yn union mae chwibanu Edward Snowden yn golygu i ni. Mae hefyd… Parhau i ddarllen Haclediad #29: Yr Un Preifat

Haclediad #28: Cynhadledd-I/O

Henffych! Dyma i chi rifyn cynta’r “hâf” o’r Haclediad. Bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn sôn am gynhadleddau di-ri: cynhadledd Creadigidol S4C oedd yn ceisio cael gafael ar ddyfodol digidol ein sianel genedlaethol ac yna cynhadledd Google I/O, gyda yna lwyth o bethau newydd i’w gweld gan y cewri chwilota a hysbysebu, wel, heblaw am… Parhau i ddarllen Haclediad #28: Cynhadledd-I/O

Haclediad #26: Yr un byw na fu

Ar yr Haclediad diweddaraf i gnesu‘ch cocyls bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod digwyddiad Hacio’r Iaith ’13 gyda’u gwestai arbennig Gareth Morlais. Bydd y criw hefyd yn cymryd cipolwg ar wasanaeth fideo byr newydd Twitter, Vine, ac yn troi cadw’n heini yn gêm gyda profiadau Bryn efo’i Nike Fuel band. Hyn oll, a mwy… Parhau i ddarllen Haclediad #26: Yr un byw na fu

Haclediad #25: Hwyl (teci) yr Ŵyl 2012

Yn ôl yng nghôl yr Haclediad y tro hwn mae Sioned, a bydd Bryn ac Iestyn yn ei chroesawu nôl efo cipolwg ar Windows 8 – y dyfodol neu ddymchwel i Microsoft? Hefyd byddwn yn sbïo dros aps newydd geiriadur a bysellfwrdd Cymreig ffab i’ch ffonau a rhestr Nadolig yr Hacledwyr, be da ni am… Parhau i ddarllen Haclediad #25: Hwyl (teci) yr Ŵyl 2012

Datblygiadau digidol y Maori

http://www.crownfibre.govt.nz/2012/11/te-reo-facebook-on-the-way/ Mae ganddyn nhw Maori Internet Society, mae ganddyn nhw gynhadledd genedlaethol yn canolbwyntio ar gyfleoedd y rhyngrwyd i S.N. o’r enw Nethui. Amser i ninnau gael trefn fwy swyddogol ar drafodaetha am y rhyngrwyd yn Gymraeg ac yng Nghymru, ac i gael cynhadledd genedlaethol sydd yn gwneud rhywbeth gwahanol i Hacio’r Iaith?