Dim ffrwd fideo byw hyd yma – mae’n edrych fel bod y cysylltiad wi-fi yn ddigonol ond dwi’n cael feed brwnt iawn o’r ddesg sain. Wnai edrych sut i wella pethau yn y toriad nesaf a falle darlledu wedyn.
http://wales.gov.uk/consultations/welshl…
Dogfen ymgynghori “Iaith Byw, Iaith Fyw”: http://wales.gov.uk/consultations/welshlanguage/wlsconsultation/?lang=cy
Hacio’r Iaith wedi dechrau! 055YM!
HWRE! Da ni wedi cychwyn. Cyffrous iawn yn wir. Ma na griw da yma a’r dechnoleg yn gweithio (phew!). Ma pawb wedi cael paned a thrafod trefn y dydd a da ni di penderfynu bod mewn sesiwn efo’n gilydd i ddechrau wedyn splitio i stafelloedd gwahanol ar ôl hynny. A dyma fi yn y sesiwn… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith wedi dechrau! 055YM!
‘Chydig ar Gof a Chadw (sesiwn Hacio’r Iaith 2011)
Dw i’n rhedeg sesiwn o’r enw ‘Chydig ar Gof a Chadw yn Hacio’r Iaith 2011. Yn hytrach na sgwennu gormod fan hyn, fi di rhoi dolenni. Plis cer i’r 2 diweddariad ar y wici: crynodeb http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_-_Ionawr_2011#Chydig_ar_gof_a_chadw blas o stwff gan Gwilym Deudraeth http://hedyn.net/wici/Blas_o_stwff_gan_Gwilym_Deudraeth hefyd, y cofnod o 1/1/11 gyda’r hedyn o’r syniad Llyfrau yn y… Parhau i ddarllen ‘Chydig ar Gof a Chadw (sesiwn Hacio’r Iaith 2011)
Haclediad #4 – yr un gyda’r gwestai arbennig!
Croeso i rifyn 4 o’r Haclediad, gyda’r criw arferol y tro hwn mae Mei Gwilym (@meigwilym), anturiaethwr cod a’n space cadet dof ni am y noson. Bydd Sioned (@llef), Bryn (@bryns), Iestyn (@iestynx) a Mei yn trafod Fforwm “cyfryngau newydd” (aw!) S4C, yn cymryd cipolwg ar gynnyrch y Consumer Electronics Show o Las Vegas a… Parhau i ddarllen Haclediad #4 – yr un gyda’r gwestai arbennig!
Hacio’r Iaith 2011: ydych chi am ddod? sut allwch chi helpu?
Bydd cynhadledd agored Hacio’r Iaith 2011 yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn y 29 Ionawr, yn Aberystwyth. Thema’r gynhadledd fel y llynedd yw technoleg, rhyngrwyd a iaith. Mae’r lleoliad, offer ac ati wedi ei gadarnhau felly yr unig beth sydd ar ôl rwan ydi i chi gofrestru a meddwl am rywbeth yr hoffech chi… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2011: ydych chi am ddod? sut allwch chi helpu?
Gêm gyntaf Gymraeg ar gyfer iphones
Mae cwmni Griffilms wedi rhyddhau’r gêm Gymraeg gynta sydd ar gael ar gyfer iPhones. Mae nhw eisoes wedi rhyddhau gêm o’r enw Space Wolves ym mis Rhagfyr. Dyma’r blurb: Y gem Cymraeg gynta’ ar yr iPhone. Saethwch neu osgoi y Cerrig Peryg i ennill! Defnyddiwch y botwm ‘llywio’ i ddewis dull o lywio’r llong ofod.… Parhau i ddarllen Gêm gyntaf Gymraeg ar gyfer iphones
Quora: Saesneg yn unig os gwela di’n dda
Mae Quora wedi bod yn tyfu llawer yn ddiweddar. Beth yw eu polisi nhw am ieithoedd? Ateb gan Charlie Cheever, cyd-sylfaenydd Quora Do Quora questions need to be written in English? For now, yes, content on Quora should be in English. The main reason for this is because content not in English won’t be understandable… Parhau i ddarllen Quora: Saesneg yn unig os gwela di’n dda
Dyddiadur a chynllunio 2011, beth wyt ti’n wneud?
Beth yw dy hoff “datrysiad” am gynllunio dy amser, apwyntiadau ayyb? Dw i wedi bod yn hoff iawn o ddyddiadur papur. Technoleg dda, dim batris, gweledol. Mae’n neis cael fy nghynlluniau a’r cyfrifiadur/ffonau/dyfeisiau ar wahan. Ond dw i’n bwriadu trio rhywbeth am y pythefnos cyntaf y flwyddyn. Google Calendar efallai? Mae’r dechrau’r flwyddyn yn cyfle… Parhau i ddarllen Dyddiadur a chynllunio 2011, beth wyt ti’n wneud?
Ystadegau blog Bethan Gwanas
Blogio