Gêm gyntaf Gymraeg ar gyfer iphones

Mae cwmni Griffilms wedi rhyddhau’r gêm Gymraeg gynta sydd ar gael ar gyfer iPhones. Mae nhw eisoes wedi rhyddhau gêm o’r enw Space Wolves ym mis Rhagfyr.

Dyma’r blurb:

Y gem Cymraeg gynta’ ar yr iPhone. Saethwch neu osgoi y Cerrig Peryg i ennill! Defnyddiwch y botwm ‘llywio’ i ddewis dull o lywio’r llong ofod. Cofiwch adael ‘Review’ i gefnogi Cerrig Perrig a’n helpu i greu llawer mwy o gemau Cymraeg.

Os da chi isio gweld mwy yna plis cymrwch yr aser i roi sylwadau a sgôr i’r gêm. Ma’n wych bod cwmni yn gwneud hyn oddi ar eu liwt eu hunain, fel menter fasnachol. Props i Griffilms am hynny.

6 sylw

  1. Gol: Felly pwy oedd *wir* gyntaf?

    Mae Broadsword yn honni taw nhw sydd gyntaf hefo’r gallu i newid iaith ar eu app Attack Kumquat.

    Ond mae Griffilms a Broadsword ill dau yn rhy hwyr gan bod 3 gêm ar yr app Cyw, ac fel mae Gareth yn nodi draw ar Metastwnsh, rhyddhawyd gêm i blant yn yr haf o’r enw Lliwiau.

  2. Dwi’n casau’r ffasiwn yma ymysg y Cymry Cymraeg (yn bennaf) o ddweud mai nhw yw’r ‘cynta’ i wneud unrhywbeth dan haul. Pwy sy’n becso dam?

    Ydi e’n gêm dda? Ydi e werth yr arian?

    Dwi’n amheus iawn am gymhelliad llawer o ddatblygwyr i’r farchnad App. Oes yna unrhywbeth arloesol yn ail-greu gêm Asteroids ‘yn Gymraeg’ ar yr iPhone? Mae yna ormod o bobl yn creu apps i ffonau clyfar am ddau reswm: a) mae’n hawdd, b) mae’n nhw’n gallu gwneud arian ohono

    Ie, chwarae teg i Griffilms (mae nhw’n annhebygol o wneud arian mawr ar hyn) ond fasai’n braf gweld rhywbeth bach mwy dyfeisgar sy’n gwneud defnydd o’r iaith (yn hytrach na testun Cymraeg ar gêm fase’n gweithio yn unrhyw iaith).

    Dwi o hyd yn clywed am Apps yn saesneg sy’n cynnwys posau geiriol neu gwis er enghraifft. Wedi’r cyfan, gall unrhywun wneud gêm ‘saethu’ syml (a mi fydd gan rhai cwmniau llawer mwy o adnoddau i gwneud gêm dda). Ond ychydig iawn o bobl fyddai’n gallu creu gêm sy’n gwneud defnydd o’r Gymraeg fel rhan sylfaenol o’r gêm.

  3. @DafyddTomos:

    “Dwi’n casau’r ffasiwn yma ymysg y Cymry Cymraeg (yn bennaf) o ddweud mai nhw yw’r ‘cynta’ i wneud unrhywbeth dan haul. Pwy sy’n becso dam? [bosib y gwefannau, blogs, twitter, newyddion a phawb arall sy’n helpu marchanata’r eitem fel newyddion iddyn nhw.]

    Ydi e’n gêm dda? [ti heb chwarae e cyn mynegi barn mor gryf?] Ydi e werth yr arian?[59c… rhatach na bar o siocled?]

    Dwi’n amheus iawn am gymhelliad llawer o ddatblygwyr i’r farchnad App. Oes yna unrhywbeth arloesol yn ail-greu gêm Asteroids ‘yn Gymraeg’ ar yr iPhone? Mae yna ormod o bobl yn creu apps i ffonau clyfar am ddau reswm: a) mae’n hawdd [ydy wir??], b) mae’n nhw’n gallu gwneud arian ohono [dyna’r syniad mewn busnes?]

    Ie, chwarae teg i Griffilms (mae nhw’n annhebygol o wneud arian mawr ar hyn) ond fasai’n braf gweld rhywbeth bach mwy dyfeisgar sy’n gwneud defnydd o’r iaith (yn hytrach na testun Cymraeg ar gêm fase’n gweithio yn unrhyw iaith).

    Dwi o hyd yn clywed am Apps yn saesneg sy’n cynnwys posau geiriol neu gwis er enghraifft. [ond ddim yn y top 1000 digon tebyg!!] Wedi’r cyfan, gall unrhywun wneud gêm ‘saethu’ syml [edrach mlaen i weld gem saethu Dafydd Tomos] (a mi fydd gan rhai cwmniau llawer mwy o adnoddau i gwneud gêm dda). Ond ychydig iawn o bobl fyddai’n gallu creu gêm sy’n gwneud defnydd o’r Gymraeg fel rhan sylfaenol o’r gêm.[ y genre ‘adventure games’ byddai’r un sy’n gwneud fwya o synnwyr digon tebyg, ond bod angen misoedd o waith datblygu sgriptiau, cymeriadau, game mechanics]”

  4. Wnes i ofyn y cwestiwn “Ydi e’n gêm dda, werth ei brynu” am reswm diffuant. Does gen i ddim iPhone ond oes oedd gen i un fasen i ddim yn prynu rhywbeth jyst achos fod e yn Gymraeg ac yn honni fod yn ‘gyntaf’ (Dyna sut mae’r farchnad yn gweithio, os ydych chi’n bwriadu cystadlu ynddo).

Mae'r sylwadau wedi cau.