Mae’r rhifyn diweddaraf o’r Microsoft Windows 10 Pro Technical Preview newydd ei ryddhau ddoe, fel un o gyfres cyn rhyddhau’r Windows 10 terfynol yn yr haf – rhywbryd rhwng diwedd Mehefin a diwedd Medi eleni. Mae Microsoft yn awyddus i bawb ddefnyddio Windows, felly bydd ar gael am ddim i unigolion sy’n rhedeg Windows 7… Parhau i ddarllen Windows 10 – Cyfle i ehangu’r adnoddau Cymraeg?
Sleidiau Sgwrs @DyddiadurKate
Dyma sleidiau fy sgwrs ar brosiect @DyddiadurKate. Dwi’n ei rannu efo’r ymwadiad mai rhan o gyflwyniad llafar ydi o, ond plis mwynhewch y linc, porwch y ffynonellau a dilynwch @DyddiadurKate ar twitter! I’r rhai sy’ ddim isie edrych trwy sleidiau, dyma gwpwl o’r linciau: Cyflwyniad i Kate gan Elen Phillips, Curadur yn Sain Ffagan Blog… Parhau i ddarllen Sleidiau Sgwrs @DyddiadurKate
Gemeiddio dysgu – @leiawelsh
Annog ymddygiad da cynnydd Class dojo Classcraft – mewn timau, staff yn cymryd rhan hefyd! Dewis beth sy’n haeddu clod(pwyntiau) , neu golli pwyntau Ystadegau, dros amser Habitrpg Chorewars
Model dehongli casgliadau @DyddiadurKate (@sara_huws)
Trydar pob dydd, yn defnyddio cofnodion o ddydiadur Kare Rowlands yn 1915. Crynodeb weddol dwt o beth oedd wedi digwydd y diwrnod hynny, ddim llawer mwy na trydariad!
Gweiadur gyda @NuddGwerin
Hanes y wefan yn ymestyn yn ol i pan ddechreuodd ei dad (Geraint Lewis) ddysgu’r iaith a dechrau casglu ffurfiau geriau. Dim ond 7% yn ffurfiau cysefin. Y Gweiadur yn eich helpu i werthfawrogi barddoniaeth! “Draw dros y don mae bro dirion nad ery Cwyn yn ei thir, ac yno ni thery Na haint na… Parhau i ddarllen Gweiadur gyda @NuddGwerin
Cychwyn off efo APIs y Ganolfan: llais robot a Cysill #techiaith
Cyflwynodd Patrick Robinson APIs y Ganolfan Technolegau Iaith. (Demo cyflym hawdd o’r llais robot Cymraeg yma!) API (Application Programming Interface) ydy ffordd o gael dy raglen i siarad gyda rhaglen arall er mwyn manteisio ar ddata a gwasanaethau. Siaradodd Patrick am y system testun-i-lais (un o fy hoff bethau ar hyn o bryd!) a Cysill,… Parhau i ddarllen Cychwyn off efo APIs y Ganolfan: llais robot a Cysill #techiaith
Gweithdy Wicipedia gan @rhysw1
Dyma’r sleidiau http://iawn.de/wphaciaith15 (Dw i ddim yn gallu mewnosod am y tro – dof i’n ôl wedyn!) Diolch i Rhys Wynne am y canllaw.
Haclediad 42 – Minilediad Haciaith 2015
Rhifyn byr a bachog o’r Haclediad sydd i’w gael y mis hwn, wedi i’r ffliw daro Iestyn, bydd Bryn a Sioned yn mentro i gwblhau podlediad mewn amser record Byd! Bydd sôn am Haciaith ’15 ym Mangor a llwyth o fwydro amserol technolegol – mwynhewch!
Cyflwyniad Gwych i LibreOffice
Mae rhagor o wybodaeth am LibreOffice ar wefan Cymraeg LibreOffice. Diolch i Aled Powell am y trosleisio.
Wicigyfarfod Caerdydd, 22 Chwefror 2015
Mae tudalen ar Meta-wiki am y pedwerydd Wicigyfarfod yng Nghaerdydd: Wicigyfarfod Caerdydd Rhif 4 Dydd Sul 22 Chwefror 2015 — 12:00 ymlaen Lleoliad: The Central Bar (Wetherspoons), 39 Plas Windsor CF10 3BW #cdfwiki Mae wicigyfarfod yn gyfle i ddefnyddwyr prosiectau Wikimedia gwrdd â’i gilydd a… Sgwrsio am Wicipedia, Wikimedia, cynnwys agored neu unrhyw bwnc arall… Parhau i ddarllen Wicigyfarfod Caerdydd, 22 Chwefror 2015