Haclediad 70: Llyfr Glas Kobo

Post eisteddfod blues? Deifiwch mewn i bennod diweddaraf yr Haclediad i glywed mwy o Bryn blin ar e-lyfrau, Iest yn gadael y nest a Sioned yn ffrîcio allan bod Lin-Manuel Miranda yn Nghymru. Hefyd gwefan newydd ‘Y Pod’, planhigion vs anifeiliaid a llwyth o tech a bywyd ar eich hoff podcast niche am alcohol a… Parhau i ddarllen Haclediad 70: Llyfr Glas Kobo

Hacio’r Iaith 2019: Canolfan Yr Egin, Caerfyrddin, 9fed Chwefror

Mae hi’n bleser gen i ddweud ein bod ni wedi cadarnhau dyddiad a lleoliad Hacio’r Iaith 2019! Fe fydd croeso cynnes i bawb fynychu a chymryd rhan mewn cyfres o sesiynau, gweithdai, trafodaethau a chyflwyniadau am ddefnydd o’r Gymraeg yn y cyfryngau digidol. Fe fydd rhagor o fanylion gan gynnwys cofrestru cyn hir (achos mae… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2019: Canolfan Yr Egin, Caerfyrddin, 9fed Chwefror

Scratch 3.0 Beta’n cael ei ryddhau…

Heddiw, Awst 1 yw dyddiad ryddhau Scratch 3, fersiwn beta newydd o Scratch sy’n cynnig amryw o welliannau a chyfleoedd newydd i arbrofi ym myd codio ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’n cynnwys gwelliannau fydd yn ei wneud yn fwy addas ar gyfer defnydd ar offer symudol, fel tabledi, yn ogystal â gliniaduron a… Parhau i ddarllen Scratch 3.0 Beta’n cael ei ryddhau…

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol Cofnodion wedi'u tagio

Y Gymraeg mewn technoleg – ble nesaf? (Dydd Gwener 10 mis Awst 2018)

Dewch am weithdy ymarferol lle byddwn yn trin a thrafod y cwestiynau isod: Sut mae mynd i’r afael a’r llu o heriau i’r Gymraeg ar-lein ac mewn meddalwedd? Beth sydd angen yn y maes technoleg Cymraeg? Beth ydyn ni am weld yn ystod y flwyddyn nesaf? Beth am y degawd nesaf? Ym mha achosion ydyn… Parhau i ddarllen Y Gymraeg mewn technoleg – ble nesaf? (Dydd Gwener 10 mis Awst 2018)

Firefox Focus newydd

  Mae fersiwn newydd o Firefox Focus wedi ei ryddhau ac ar gael o Google Play a’r AppStore. Mae’r porwr syml a diogel wedi cael ei ddiweddaru gan ychwanegu nodweddion defnyddiol newydd. Canfod yn y Dudalen (Android yn unig) – er mwyn hwyluso chwilio am eitemau. Mae modd gwneud hyn ar wefan lawn, nid un… Parhau i ddarllen Firefox Focus newydd

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol Cofnodion wedi'u tagio

Linux Mint 19 Cinnamon

Mae Linux Mint yn system weithredu Linux poblogaidd iawn ac mae ar gael gyda rhyngwyneb Cymraeg. Mae ei gynllun yn debyg i gynllun Windows traddodiadol ac felly yn ddeniadol  ar gyfer y sawl sy’n trosglwyddo i Linux am y tro cyntaf. Sgrin Croeso Linux Mint 19 Mae “Tara” yn yn fersiwn newydd tymor hir fydd… Parhau i ddarllen Linux Mint 19 Cinnamon

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel newyddion

Deddf Senedd Ewrop ar Hawlfraint ar y Rhyngrwyd

Mae’n bosib eich bod yn ymwybodol y bydd Senedd Ewrop yn Strasbwrg ymhen rhai dyddiau yn pleidleisio ar gyfraith hawlfraint newydd all wneud niwed sylfaenol i’r rhyngrwyd yn Ewrop. Mae’r neges yma’n seiliedig ar gais gan Raegan ac Owen ar ran Tîm Polisi Mozilla. Rydym wedi brwydro’n galed yn erbyn darpariaethau mwyaf peryglus y gyfraith… Parhau i ddarllen Deddf Senedd Ewrop ar Hawlfraint ar y Rhyngrwyd

Haclediad 69: Yn Fyw o’r Boudoir

Mae’r tîm ar chwâl ym mhennod ddiweddara’r Haclediad – mae’r adeiladwyr wedi dinistrio tŷ Sioned, Iestyn yn gwerthu ei dŷ fo, a Bryn yn boddi o dan tsunami o spam gan BT. Heblaw am hyna i gyd, bydd y criw yn trafod cynigion newydd Apple, prosiect cŵl Common Voice Mozilla a sketch Bar Facebook SNL… Parhau i ddarllen Haclediad 69: Yn Fyw o’r Boudoir