Hacio’r Iaith 2019: Canolfan Yr Egin, Caerfyrddin, 9fed Chwefror

Mae hi’n bleser gen i ddweud ein bod ni wedi cadarnhau dyddiad a lleoliad Hacio’r Iaith 2019!

Fe fydd croeso cynnes i bawb fynychu a chymryd rhan mewn cyfres o sesiynau, gweithdai, trafodaethau a chyflwyniadau am ddefnydd o’r Gymraeg yn y cyfryngau digidol.

Fe fydd rhagor o fanylion gan gynnwys cofrestru cyn hir (achos mae rhaid cofrestru am eich tocyn am ddim).

Yn y cyfamser cadwch y dyddiad yn rhydd:

Hacio’r Iaith 2019
Dydd Sadwrn 9fed Chwefror 2019
Yr Egin, Caerfyrddin, Cymru, Ewrop

Rydyn ni wedi cynnal sawl digwyddiad dros y blynyddoedd ac dyma fydd ein 9fed penblwydd a’r 10fed digwyddiad mawr blynyddol, a’r tro cyntaf i ni ymgynnull yng Nghaerfyrddin.

x

3 sylw

  1. Yay! Haciaith eto! Yn cario ‘mlaen o’r sgwrs am ferced/hacwragedd y tro dwetha beth gallwn ni’n trefnu i helpu / annogi mwy o ferched i ddod a chyflwyno? Dwi’n hapus is help trefnu pethau ar gyfer plant falle? Sut le yw’r lleoliad am blant / mamau e.e?

Mae'r sylwadau wedi cau.