Y Gymraeg mewn technoleg – ble nesaf? (Dydd Gwener 10 mis Awst 2018)

Dewch am weithdy ymarferol lle byddwn yn trin a thrafod y cwestiynau isod:

  • Sut mae mynd i’r afael a’r llu o heriau i’r Gymraeg ar-lein ac mewn meddalwedd?
  • Beth sydd angen yn y maes technoleg Cymraeg? Beth ydyn ni am weld yn ystod y flwyddyn nesaf? Beth am y degawd nesaf?
  • Ym mha achosion ydyn ni’n dibynnu ar GAFA (Google, Amazon, Facebook, Apple) ac eraill, a pha waith sydd yn gallu digwydd tu allan i’r cwmnïau mawrion?
  • Pa newidiadau fydd yn sicrhau bod technolegau cyfrifiadurol/symudol yn gweithio er lles y Gymraeg ac ein cymunedau yn hytrach nag yn ei erbyn?
  • Pa fentrau perthnasol sydd eisoes ar waith? Pa safbwyntiau a syniadau sydd ddim wedi eu hystyried eto? Ble mae’r cyfleoedd i gydweithio?

Mae llawer o waith gwerthfawr yn digwydd ar draws sectorau (cyhoeddus, preifat, addysg, trydydd sector a gwirfoddol) ond mae hi’n glir bod bylchau ac mae angen gwella cydweithio.

Rydyn ni’n credu bod gweithredoedd syml yn gallu gwella’r sefyllfa. Pe tasai pawb gyda diddordeb mewn adnoddau iaith digidol yn gallu canfod ffordd anffurfiol ac effeithiol o gydweithio rydyn ni’n gallu casglu syniadau tuag at fap ar gyfer y Gymraeg mewn cyfryngau digidol.

Allbwn y sesiwn fydd rhestr agored ddrafft o bosibiliadau ymarferol a meysydd manwl sydd angen eu datblygu.

Y bwriad yw i ysgrifennu’r rhestr yn ystod y sesiwn fel gweithred sydd yn annibynnol o unrhyw gorff neu sefydliad – er rydym yn ymwybodol o botensial mawr i gydweithio ar draws gymunedau, cyrff, mudiadau, a busnes.

Nid yw’r digwyddiad hwn yn ymdrech i dynnu sylw oddi ar ymdrechion sydd eisoes ar waith, ond annog, cynorthwyo, a chyfrannu atyn nhw.

Fe fydd croeso cynnes i unrhyw un sydd yn ymddiddori yn y pwnc, a mynediad am ddim.

Fe fydd hwn yn ddigwyddiad ymylol yn ystod Eisteddfod Genedlaethol, sydd ddim yn rhan swyddogol o’r brifwyl.


Indycube
Tŷ Saint Line, Sgwâr Mount Stuart (llawr gwaelod)
10yb tan 12 hanner dydd
Dydd Gwener 10fed mis Awst 2018


Cymuned o bobol proffesiynol ac amatur yw Hacio’r Iaith sydd yn trin a thrafod sut mae technoleg yn berthnasol i’r Gymraeg, sut mae’r iaith yn cael ei ddefnyddio a beth yw’r posibiliadau.

Diolch o galon i Indycube am gefnogaeth.

4 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.