Firefox Focus newydd

Firefox Focus

 

Mae fersiwn newydd o Firefox Focus wedi ei ryddhau ac ar gael o Google Play a’r AppStore.
Mae’r porwr syml a diogel wedi cael ei ddiweddaru gan ychwanegu nodweddion defnyddiol newydd.
Canfod yn y Dudalen (Android yn unig) – er mwyn hwyluso chwilio am eitemau. Mae modd gwneud hyn ar wefan lawn, nid un symudol, hefyd.
Tabiau Cyfaddas – estyn diogelwch cynhenid Firefox Focus i wefannau sy’n c ael eu darparu gan apiau fel Twitter neu Yelp, gan gadw eu pryd a’u gwedd.
Nodweddion biometreg iOS – mae modd ei gloi a’i agor gan ddefnyddio dilysu Face neu Touch ID, er mwyn diogelu preifatrwydd eich porwr.
Mae diogelwch Firefox Focus yn ddigon ar gyfer y Blackberry KEY2, un o’r ffonau mwyaf diogel sydd ar gael. Tipyn o bluen yn het Mozilla

Rhagor o flog Mozilla