Scratch 3.0 Beta’n cael ei ryddhau…

Heddiw, Awst 1 yw dyddiad ryddhau Scratch 3, fersiwn beta newydd o Scratch sy’n cynnig amryw o welliannau a chyfleoedd newydd i arbrofi ym myd codio ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’n cynnwys gwelliannau fydd yn ei wneud yn fwy addas ar gyfer defnydd ar offer symudol, fel tabledi, yn ogystal â gliniaduron a chyfrifiaduron desg. Mae na fwy o gymeriadau, cefnlenni, synau yn ogystal â dulliau ehangach i gysylltu ag offer eraill a gwasanaethau gwe.

Bydd Scratch 3.0 yn cael ei lansio’n llawn ym mis Ionawr 2019 a bydd yn cymryd lle’r Scratch 2.0 presennol, bryd hynny. Yn y cyfamser, mae modd arbrofi gyda’r fersiwn newydd a gweld sut mae’n gweithio.

Mae Scratch yn cael ei ddefnyddio’n helaeth mewn ysgolion a chlybiau codio yng Nghymru. Cofiwch ofyn am y rhyngwyneb Cymraeg!

Os oes gennych sylwadau am y rhyngwyneb Cymraeg, cysylltwch â post@meddal.com.

Rhagor ar wefan Medium.