Linux Mint 19 Cinnamon

Mae Linux Mint yn system weithredu Linux poblogaidd iawn ac mae ar gael gyda rhyngwyneb Cymraeg. Mae ei gynllun yn debyg i gynllun Windows traddodiadol ac felly yn ddeniadol  ar gyfer y sawl sy’n trosglwyddo i Linux am y tro cyntaf.

Sgrin Croeso Linux Mint 19

Mae “Tara” yn yn fersiwn newydd tymor hir fydd yn cael ei gynnal tan 2023. Mae’n cynnwys meddalwedd sydd wedi ei ddiweddaru, nifer o welliannau ac amryw o nodweddion newydd sy’n gwneud eich bwrdd gwaith yn le mwy cysurus. Cinnamon yw’r bwrdd gwaith yma ac mae Linux Mint yn cynnig rhai eraill – MATE a xfce. Mae gwybodaeth am y rhain ar wefan Linux Mint. Mae’r gwaith lleoleiddio wedi digwydd ar ‘Cinnamon’. Mae modd gosod ‘Cinnamon’ ar ddosbarthiadau Linux eraill.

Mae manylion am yr holl newidiadau i’w gweld yma.

5 sylw

  1. Neis iawn. O’n i am osod Ubuntu ar hen liniadur gyda SSD 300GB newydd, ond mi wna’i roi cynnig ar Mint ŵan. Mae’n edrych yn wych.

Mae'r sylwadau wedi cau.