Deddf Senedd Ewrop ar Hawlfraint ar y Rhyngrwyd

Mae’n bosib eich bod yn ymwybodol y bydd Senedd Ewrop yn Strasbwrg ymhen rhai dyddiau yn pleidleisio ar gyfraith hawlfraint newydd all wneud niwed sylfaenol i’r rhyngrwyd yn Ewrop.

Mae’r neges yma’n seiliedig ar gais gan Raegan ac Owen ar ran Tîm Polisi Mozilla.

Rydym wedi brwydro’n galed yn erbyn darpariaethau mwyaf peryglus y gyfraith hon, fyddai, ymhlith pethau eraill yn gorfodi cwmnïau rhyngrwyd i osod hidlau cynhwysfawr ar eu gwasanaethau – i sganio holl lwytho i fyny gan ddefnyddwyr er mwyn chwilio am dorri hawlfraint.

Os fydd yn cael ei fabwysiadu, bydd y ddeddf yn bygwth y rhyngrwyd creadigol rydym wedi arfer ag ef.

Dros nos, bydd ffyrdd arferol o fynegiant ar y rhyngrwyd sydd mor ganolog i’n gwaith a’n chwarae – o rannu cod, cysylltu, i hyd yn oed cofnodi memau – yn cael eu bygwth.

Ar adeg hanfodol fel hyn rydym yn eich annog i gysylltu â’ch Aelod Senedd Ewrop i amlygu iddyn nhw pa mor beryglus yw’r cynnig hwn i’r rhyngrwyd rhydd ag agored yn Ewrop.

Dyma rhai ffyrdd i gysylltu â nhw:

Yn Change Copyright mae manylion am y pwyntiau trafod a theclyn galwad er mwyn galw eich Aelod Senedd Ewrop am ddim.

Mynd i Save Your Internet er mwyn eu trydar neu eu he-bostio.

Yn olaf, mae modd dod o hyd i’ch Aelod Senedd Ewrop lleol yn fan hyn (defnyddiwch eu rhifau Strasbwrg!), fel bod modd i chi anfon neges fwy personol Cymraeg isod. Mae’r gwreiddiol Saesneg ar gael yma

Cofiwch fod yn gwrtais gyda phawb rydych yn cysylltu â nhw. Bosib na fyddan nhw’n cytuno gyda ni, na gwybod am beth a’r mater hawlfraint. Pobl ydyn nhw wedi’r cyfan, a bydd bod yn amharchus yn tanseilio ein hymdrechon.

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymgyrch hwn, am eich amser a’ch egni i gadw’r rhyngrwyd yn agored, creadigol ac arloesol. Rydym yn hapus i ateb unrhyw gwestiwn neu i ddarparu rhagor o fanylion – cysylltwch â ni yn brussels@mozilla.com 

 

——————————————————————————————————-

Neges bersonol at eich Aelod Senedd Ewrop:

Annwyl Aelod Senedd Ewrop,

Rwy’n [ysgrifennu/galw] chi fel pleidleisiwr Ewropeaidd sy’n defnyddio ac yn dibynnu ar ryngrwyd agored bob dydd.

Rwy’n eich annog i bleidleisio yn erbyn y mandad i gychwyn trialogau ar gyfarwyddeb ar Hawlfraint yn y Farchnad Sengl Ddigidol.

Gall y gyfarwyddeb fod yn drychineb i sectorau creadigol a digidol Ewrop.

Mewn gwirionedd yr endidau sy’n debygol o ennill o’r cyfarwyddeb newydd yw labeli recordiau a stiwdios ffilm Americanaidd, yn ogystal â phlatfformau technolegol mawr iawn Americanaidd. Mae’r rhan fwyaf o sector Ewropeaidd, yr SMEs a’r ‘startups’ – y rhai  mae’r gyfarwyddeb i fod i’w hamddiffyn – yn debygol o fod y rhai fydd yn dioddef ohono fwyaf.

 

Ymhellach, drwy wireddu’r hidlau cyffredinol  ar rannu data ar-lein (Erthygl 13), mae’r gyfarwyddeb  yn debygol o ddifrodi’r rhyngrwyd yn Ewrop yn sylweddol, gyda chanlyniadau byd-eang.

 

Rwyf yn ei annog i bleidleisio yn erbyn y mandad ar gyfer trialog. Mae’r gyfarwyddeb a’r materion mae’n ymwneud â nhw llawer iawn rhy bwysig i basio heb graffu ychwanegol.

 

Mae dyfodol rhyngrwyd rhydd ac agored yn Ewrop yn dibynnu ar eich pleidlais chi.

 

Yn gywir,