Cynulliad: Diwrnod Newyddion Hyperleol 23/10/2014

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal diwrnod newyddion hyperleol ar 23 Hydref. Ceisia’r digwyddiad, a gynhelir mewn partneriaeth â Chanolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, Prifysgol Caerdydd ddod â newyddiadurwyr hyperleol a chymunedol i’r Senedd i’w galluogi i roi gwybod am waith y Cynulliad Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w hardal a’u cynulleidfaoedd. Mae’r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y… Parhau i ddarllen Cynulliad: Diwrnod Newyddion Hyperleol 23/10/2014

WordPress 4.0 Cymraeg

Beth sy’n newydd? – dyma’r blyrb gan WordPress: Mae WordPress 4.0 yn cynnig profiad ysgrifennu a rheoli mwy llyfn. Rheoli eich cyfrwng yn rhwydd Gallwch weld eich cyfrwng o fewn un grid hardd hir. Mae rhagolwg manylion newydd yn ei gwneud hi’n haws edrych ar a golygu eich cyfrwng yn eu trefn. Mae gweithio gyda… Parhau i ddarllen WordPress 4.0 Cymraeg

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Rhyddhau Firefox Android Cymraeg

Mae’r porwr gwe Cymraeg cyntaf ar gyfer ffonau symudol a thabledi – Firefox Android, newydd ei ryddhau. Mae Firefox Android ar gael o’r Google Play Store ar gyfer pob dyfais sy’n rhedeg Android 2.2 neu well. Mae Firefox Android yn borwr gwe rhydd a rhad sy’n rhoi grym y we agored yn eich dwylo. Mae’r… Parhau i ddarllen Rhyddhau Firefox Android Cymraeg

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

ITV Cymru/@Hacio i lansio cynllun newyddion ar-lein newydd

Mae’n rhaid dweud fy mod i’n chwilfrydig am gynlluniau Hacio ar ôl gweld y hysbyseb swydd yma, yn enwedig am sut mae’r newyddiadurwyr proffesiynol yn gweithio gyda gwirfoddolwyr ifanc. Ond os ydych chi am geisio am y swydd dw i’n credu eich bod chi’n rhy hwyr yn anffodus! Newyddiadurwr Ar-lein – ITV Cymru Wales Lleoliad… Parhau i ddarllen ITV Cymru/@Hacio i lansio cynllun newyddion ar-lein newydd

Reddit: cyfrif Croeso Cymru/visit_wales

Mae cyfrif o’r enw visit_wales ar Reddit, dw i’n cymryd taw Croeso Cymru ydynyt. Mae’n eithaf diddorol i weld defnydd o blatfform o’r fath gan sefydliad cyhoeddus. Mae rhai o’r lluniau wedi cael tipyn o drafodaeth. Does dim terfyn ar beth maen nhw yn fodlon gwneud i dynnu sylw (rhybudd: crinjlyd). Pa effaith ar y… Parhau i ddarllen Reddit: cyfrif Croeso Cymru/visit_wales

Lansio statiaith.com

Rwyf wedi lansio statiaith.com heddiw. Y bwriad yw iddo ymdrin ag ‘ystadegau sy’n ymwneud â’r Gymraeg – a rhagor’, fel y mae’n ei ddweud ar y pecyn. Yn #haciaith 2014 ym Mangor dangosais un o’r mapiau sydd wedi ei gynnwys yn statiaith.com a dyma’r tro cyntaf iddo gael ei gyhoeddi. Mae’n dangos y newid yn y… Parhau i ddarllen Lansio statiaith.com

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Chwilio am arbenigwyr digidol i helpu dysgwyr Cymraeg!

Fforwm Strategol Technoleg Gwybodaeth a datblygiadau digidol i ddysgwyr Mae hi’n ddymuniad gen i yma yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, sefydlu Fforwm i yrru defnydd TG ac adnoddau digidol wrth ddysgu ac addysgu Cymraeg yn ei flaen. Gwelwn fanteision gwahodd cyrff ac unigolion i gyfrannu at y datblygiadau, gan fanteisio ar arbenigeddau penodol.… Parhau i ddarllen Chwilio am arbenigwyr digidol i helpu dysgwyr Cymraeg!

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Windows 8.1 – Rhyngwyneb Cymraeg

Dyma’r cyfeiriad angenrheidiol: http://www.microsoft.com/cy-GB/download/details.aspx?id=39307 Os oes angen cymorth ar faterion y Gymraeg a Windows roedd y cysylltiad canlynol yn ddefnyddiol: Rob Margel International Site Manager (UK, Canada, Australia & India) Windows – WEB SERVICES & CONTENT http://blogs.msdn.com/b/robmar/ – mae ‘na ffurflen gyswllt yna. Ydy hwn yn gweithio ar Windows 8.1 RT?

Firefox OS Cymraeg

Daeth parsel bach brown i’r tŷ wythnos ddiwethaf yn cynnwys ffôn bach oren llachar. Roedd y parsel yn cynnwys Geeksphone Keon wedi ei anfon gan Mozilla fel bod modd profi’r cyfieithiad Cymraeg ar system weithredu Firefox OS. Mae’r cyfieithiad Cymraeg ar gael ar y fersiwn nosweithiol o’r ddelwedd ac i’w gael oddi ar wefan Geeksphone.… Parhau i ddarllen Firefox OS Cymraeg

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol