Cynulliad: Diwrnod Newyddion Hyperleol 23/10/2014

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal diwrnod newyddion hyperleol ar 23 Hydref. Ceisia’r digwyddiad, a gynhelir mewn partneriaeth â Chanolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, Prifysgol Caerdydd ddod â newyddiadurwyr hyperleol a chymunedol i’r Senedd i’w galluogi i roi gwybod am waith y Cynulliad Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w hardal a’u cynulleidfaoedd. Mae’r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, yn esbonio isod pam mae mor bwysig bod corff deddfu Cymru yn ymgysylltu’n uniongyrchol â’r llwyfannau digidol newydd. […]

Mae mwy am y digwyddiad ar flog Diffyg Democratiaeth gan y Cynulliad. Gofynnwch iddynt am ragor o fanylion.