A wnewch chi gyfrannu eich llais i Common Voice Cymraeg? Project Common Voice yw’r ymgais i greu data rhydd ar gyfer adnabod lleferydd, fel bod peiriannau yn gallu cofnodi’r hyn rydych yn ei ddweud wrthyn nhw ei ddeall ac ymateb iddo. Mae hyn yn galluogi darparu rhaglenni a pheiriannau ar gyfer y deillion ac anabl,… Parhau i ddarllen Common Voice Cymraeg
Awdur: Rhos Prys
Digital Language Survivl Kit
Mae’r Digital Language Diversity Project (DLDP) wedi ryddhau eu hadroddiad, Digital Language Survival Kit ac mae ar gael yn: http://wp.dldp.eu/wp-content/uploads/2018/09/Digital-Language-Survival-Kit.pdf Gwefan: DLDP.eu Darllen defnyddiol.
Apelio am leisiau ar gyfer technoleg Cymraeg
Erthygl ar Golwg360: https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/527475-apelio-leisiau-gyfer-technoleg-gymraeg
Scratch 3.0 Beta’n cael ei ryddhau…
Heddiw, Awst 1 yw dyddiad ryddhau Scratch 3, fersiwn beta newydd o Scratch sy’n cynnig amryw o welliannau a chyfleoedd newydd i arbrofi ym myd codio ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’n cynnwys gwelliannau fydd yn ei wneud yn fwy addas ar gyfer defnydd ar offer symudol, fel tabledi, yn ogystal â gliniaduron a… Parhau i ddarllen Scratch 3.0 Beta’n cael ei ryddhau…
Firefox Focus newydd
Mae fersiwn newydd o Firefox Focus wedi ei ryddhau ac ar gael o Google Play a’r AppStore. Mae’r porwr syml a diogel wedi cael ei ddiweddaru gan ychwanegu nodweddion defnyddiol newydd. Canfod yn y Dudalen (Android yn unig) – er mwyn hwyluso chwilio am eitemau. Mae modd gwneud hyn ar wefan lawn, nid un… Parhau i ddarllen Firefox Focus newydd
Deddf Senedd Ewrop ar Hawlfraint ar y Rhyngrwyd
*Diweddariad* – Cafodd y ddeddfwriaeth ei wrthod. Bydd yn mynd nôl i’r Senedd Ewropeaidd ym mis Medi 2018 wedi’i adolygu. Gw. erthygl yn Wired Diolch i bawn wnaeth ymateb.
Linux Mint 19 Cinnamon
Mae Linux Mint yn system weithredu Linux poblogaidd iawn ac mae ar gael gyda rhyngwyneb Cymraeg. Mae ei gynllun yn debyg i gynllun Windows traddodiadol ac felly yn ddeniadol ar gyfer y sawl sy’n trosglwyddo i Linux am y tro cyntaf. Sgrin Croeso Linux Mint 19 Mae “Tara” yn yn fersiwn newydd tymor hir fydd… Parhau i ddarllen Linux Mint 19 Cinnamon
Deddf Senedd Ewrop ar Hawlfraint ar y Rhyngrwyd
Mae’n bosib eich bod yn ymwybodol y bydd Senedd Ewrop yn Strasbwrg ymhen rhai dyddiau yn pleidleisio ar gyfraith hawlfraint newydd all wneud niwed sylfaenol i’r rhyngrwyd yn Ewrop. Mae’r neges yma’n seiliedig ar gais gan Raegan ac Owen ar ran Tîm Polisi Mozilla. Rydym wedi brwydro’n galed yn erbyn darpariaethau mwyaf peryglus y gyfraith… Parhau i ddarllen Deddf Senedd Ewrop ar Hawlfraint ar y Rhyngrwyd
Llongyfarchiadau i Delyth Prys – Gwobr Adeiladu Cymru, Womanspire 2018
Llongyfarchiadau i Delyth* ar ennill y wobr arbennig yma. Diolch i’r rhai wnaeth ei henwebu, yn gydweithwyr a chyn-gydweithwyr. Mae broliant llawn i’w weld ar dudalen newyddion Prifysgol Bangor. *datgan diddordeb 😉
Rhagor o Leisiau i Common Voice – Blog Mozilla.org
Blogiad llawn Mozilla am y diweddaraf ar Common Voice – Heddiw mae’n bleser gennym gyhoeddi fod Common Voice, menter Mozilla i dorfoli set ddata fawr o leisiau dynol ar gyfer eu defnyddio mewn technoleg lleferydd, yn mynd yn mynd i fod ar gael ar gyfer nifer o ieithoedd! Diolch i ymdrechion glew cymunedau lleoleiddio Mozilla… Parhau i ddarllen Rhagor o Leisiau i Common Voice – Blog Mozilla.org