Cystadleuaeth Fideo Firefox

Mae Firefox yn rhedeg cystadleuaeth fideo 16 eiliad Firefox Fights for You ym mhob iaith posib. Byddai’n grêt cael rhai Cymraeg – beth amdani! Manylion creu’r fideo a’r testun: https://events.mozilla.org/firefoxfightsforyoucampaign

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Scratch 3.0 – y Scratch Newydd!

Mae Scratch wedi ei anelu at alluogi pobl ifanc o bob oed i raglennu eu straeon, gemau ac animeiddiadau rhyngweithiol eu hunain – a rhannu eu creadigaethau gydag eraill yng nghymuned ar-lein Scratch. Mae Scratch 3 yn cynnwys amryw o welliannau gan gynnwys, mae’n gweithio ar dabledi, estyniadau ar gyfer estyn galluoedd Scratch, gwell golygu… Parhau i ddarllen Scratch 3.0 – y Scratch Newydd!

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Linux Mint 19.1

Mae Linux Mint yn system weithredu Linux poblogaidd iawn ac mae ar gael gyda rhyngwyneb Cymraeg. Mae ei gynllun yn debyg i gynllun Windows traddodiadol ac felly yn ddeniadol  ar gyfer y sawl sy’n trosglwyddo i Linux am y tro cyntaf. Mae Linux Mint 19.1 “Tessa” yn yn fersiwn wedi ei ddiweddaru o linach Linux… Parhau i ddarllen Linux Mint 19.1

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Adnoddau Codio yn Gymraeg

Dyma restr o rai o’r adnoddau sydd ar gael i ddysgu codio yn Gymraeg ac i godio yn Gymraeg. Mae’n cynnwys gwybodaeth am ddeunydd Scratch, Kodu, Python, ac ati. Hefyd mae gwybodaeth am yr hybiau gwybodaeth sydd ar gael sy’n cynnwys meddalwedd codio Cymraeg.  Mae’r rhestr wedi ei llunio gan Gareth Morlais o Uned y… Parhau i ddarllen Adnoddau Codio yn Gymraeg

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

WordPress 5.0

Mae WordPress 5.0 nawr ar gael! Paratowch ar gyfer newidiadau sylfaenol i olygydd WordPress – mae nawr yn gweithio ar sail blociau. Mae’r golygydd yn ddatblygiad mae WordPress wedi bod yn gweithio arno ers tro er mwyn symleiddio creu cynnwys ar gyfer eu gwefannau ond mae modd defnyddio’r golygydd clasurol o hyd… Mae thema newydd… Parhau i ddarllen WordPress 5.0

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol Cofnodion wedi'u tagio

Firefox Monitor

Mae gwasanaeth Firefox Monitor yn cynnig cyfle i weld os yw eich cyfrif(on) e-bost wedi cael eu torri a’r posibilrwydd fod eich manylion personol wedi eu cipio. Mae’r gwasanaeth, sy’n seiliedig ar Have I been pwnd, ar gael am y tro cyntaf yn Gymraeg. Bydd angen i chi sicrhau fod y Gymraeg yn uchaf ar… Parhau i ddarllen Firefox Monitor

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel newyddion Cofnodion wedi'u tagio

Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg – Uned Technolegau Iaith

Dydd Gwener, 25 Ionawr, 2019, yn Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor  10.30 y bore i 4 y prynhawn http://techiaith.cymru/cynadleddau/cynhadledd-2019/ Bydd rhaglen y gynhadledd yn dilyn. Y drydedd yn ein cyfres ar gyfer academyddion ac ymarferwyr sydd â diddordeb yn nefnydd a lledaeniad technolegau iaith mewn ieithoedd lleiafrifol, ac yn arbennig, y Gymraeg. I’w agor gan… Parhau i ddarllen Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg – Uned Technolegau Iaith

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Common Voice Cymraeg ar y Radio!

Bore’ma bues i ar rhaglen Aled Hughes ar Radio Cymru i siarad am Common Voice Cymraeg a chyfle i brofi mor hawdd yw recordio a dilysu lleisiau. Mae’r eitem hanner ffordd trwy’r rhaglen. Yn ystod yr eitem dwi ac Aled yn trafod sut mae mynd at y wefan yn voice.mozilla.org/cy ac wedyn gwrando a dilysu… Parhau i ddarllen Common Voice Cymraeg ar y Radio!

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Mae’n Wythnos Codio!

Fel rhan o wythnos codio mae Scratch yn cynorthwyo plant a pobl ifanc i ddysgu sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd yn yr 21ain ganrif. Mae gan y RaspberryPi Foundation llwythi o ddeunyddiau Cymraeg ar eu gwefan ar gyfer chwarae/arbrofi. Cofiwch fod modd arbrofi gyda Scratch 3 Beta, sydd hefyd ar gael yn Gymraeg. Cliciwch y… Parhau i ddarllen Mae’n Wythnos Codio!

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol