Common Voice Cymraeg

A wnewch chi gyfrannu eich llais i Common Voice Cymraeg?

Project Common Voice yw’r ymgais i greu data rhydd ar gyfer adnabod lleferydd, fel bod peiriannau yn gallu cofnodi’r hyn rydych yn ei ddweud wrthyn nhw ei ddeall ac ymateb iddo.

Mae hyn yn galluogi darparu rhaglenni a pheiriannau ar gyfer y deillion ac anabl, cynorthwywyr personol ac ar gyfer llywio mewn ceir. Mae’r rhain eisoes yn bodoli yn Saesneg, yr her nawr yw eu cael yn Gymraeg.

Rydym yn chwilio am bobl sy’n siarad Cymraeg o bob rhan o Gymru a thramor i gyfrannu. Gorau po fwyaf o amrywiaeth mae’r peiriant yn ei gael, y gorau y bydd yn gallu eu dehongli.

Gan fod offer Common Voice ar wefan ac ap mae modd i chi gyfrannu ar unrhyw bryd. Mae modd cyfrannu drwy ddarllen brawddegau a phytiau a thrwy ddilysu lleisiau pobl eraill. Mae’r ddwy elfen yn bwysig.

Mae modd defnyddio eich cyfrifiadur os oes ganddo feicroffon a chlustffonau/uchelseinydd neu yn gallu cysylltu rhai iddo. Mae modd hefyd defnyddio’r ap ar iPad neu iPhone diweddar.

Mae Common Voice Cymraeg yn bartneriaeth rhwng Mozilla Foundation, gwneuthurwr y porwr Firefox, Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor a Meddal.com.

Mae Common Voice Cymraeg i’w gael ar wefan Common Voice ac ar ap o’r App Store.