‘Dyn ni wedi dechrau tudalen o wefannau Cymraeg colledig ar Hedyn. Mae 36 gwefan arni hi eisoes gydag ambell i ddolen i archifau. Pam ydyn ni’n creu tudalen o hen wefannau Cymraeg? Ymchwil ac ysbrydoliaeth ydy dau reswm. Mae teimlad hefyd bod pobl yn anghofio faint sydd wedi ei gyflawni yn Gymraeg ar y we,… Parhau i ddarllen Rhestr o wefannau Cymraeg colledig: Dim Cwsg, Pep le Pew, Dic Sais…
Awdur: Carl Morris
Ieithoedd y byd: sut mae’ch iaith yn effeithio ar eich profiad o’r Rhyngrwyd?
Mae’r Guardian wedi cyhoeddi dadansoddiad difyr o ieithoedd y byd ar-lein a sut mae pobl yn eu defnyddio. […]Some languages by their very structure mean that you interact with the platform differently. For example, you can say more in the 140 character limit in Chinese than you can in English. Research has shown that Koreans… Parhau i ddarllen Ieithoedd y byd: sut mae’ch iaith yn effeithio ar eich profiad o’r Rhyngrwyd?
Fyddwch Chi Byth Yn Credu’r Hyn Mae @Nwdls Newydd Ddweud Am Fideo Cymraeg Ar-lein. Yn Enwedig Pwynt 9
Dw i’n postio yma rhag ofn bod pobl wedi methu’r cofnod blog ar Y Twll gan Elidir Jones am gynhyrchu fideo annibynnol a’r sylwadau gan bobl gan gynnwys Rhodri ap Dyfrig.
Derbyn neges destun pan mae’ch buwch wrthi’n cael babi
Mae’r ddyfais yma yn edrych yn addawol er ei bod hi’n anodd i mi gadarnhau pa mor ddefnyddiol yw hi – achos does dim buwch fenywaidd gyda fi ar hyn o bryd. Pa mor dda ydyn ni am hybu cydweithrediad rhwng y meysydd digidol/technolegol a’r meysydd amaethyddol yng Nghymru tybed?
Cychwyn off efo APIs y Ganolfan: llais robot a Cysill #techiaith
Cyflwynodd Patrick Robinson APIs y Ganolfan Technolegau Iaith. (Demo cyflym hawdd o’r llais robot Cymraeg yma!) API (Application Programming Interface) ydy ffordd o gael dy raglen i siarad gyda rhaglen arall er mwyn manteisio ar ddata a gwasanaethau. Siaradodd Patrick am y system testun-i-lais (un o fy hoff bethau ar hyn o bryd!) a Cysill,… Parhau i ddarllen Cychwyn off efo APIs y Ganolfan: llais robot a Cysill #techiaith
Gweithdy Wicipedia gan @rhysw1
Dyma’r sleidiau http://iawn.de/wphaciaith15 (Dw i ddim yn gallu mewnosod am y tro – dof i’n ôl wedyn!) Diolch i Rhys Wynne am y canllaw.
SWYDD: Rheolwr Cyfryngau Digidol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hysbysebu swydd Rheolwr Cyfryngau Digidol ar hyn o bryd: Cyflog £26,321 – £35,735 (Band Rheoli 2) Noder mai ar waelod yr ystod cyflog y byddwn yn recriwtio fel arfer. Diben y swydd: Rôl y swydd hon yw helpu i ddatblygu a gweithredu strategaeth cyfathrebu digidol arloesol, dynamig ac amlblatfform i… Parhau i ddarllen SWYDD: Rheolwr Cyfryngau Digidol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pa hashnod ddylwn i ddefnyddio am raglen teledu Saesneg?
Problem: dw i eisiau postio a darllen trydariadau yn Gymraeg am raglenni teledu mewn ieithoedd eraill (iawn, Saesneg). Ond os dw i’n edrych at yr hashnod swyddogol mae miloedd o drydariadau eraill mewn ieithoedd eraill (Saesneg yn bennaf). Mae’r sgwrs yn Gymraeg yn boddi yn y stwff arall. Dyna’r math o beth allai gwasanaeth fel… Parhau i ddarllen Pa hashnod ddylwn i ddefnyddio am raglen teledu Saesneg?
Arolwg: pa mor ddiogel ydy gwefannau poblogaidd yng Nghymru?
Dafydd Tomos yn dweud ar ei flog: […] Wrth reswm fe ddylai unrhyw daliadau ar lein fod yn ddiogel. Ar gyfer gwefannau masnachol neu wasanaethau cyhoeddus mae arfer da yn awgrymu y dylai unrhyw wybodaeth breifat gael eu ddiogelu hefyd e.e. cyfrinair, manylion archeb, cyfeiriad. Dyw’r wefan hon ddim yn defnyddio SSL am nifer o… Parhau i ddarllen Arolwg: pa mor ddiogel ydy gwefannau poblogaidd yng Nghymru?
Cwrs e-Gyhoeddi gyda @CULT_Cymru yng Nghaerdydd
Mae CULT Cymru yn trefnu cwrs am e-gyhoeddi. Darparir y cwrs yng Nghaerdydd ar 8fed o Dachwedd 2014 trwy gyfrwng y Gymraeg. Gofynnwch i CULT Cymru yn uniongyrchol am ragor o fanylion neu gofrestru.