Soniais am Freebase Gridworks pan ysgrifennais am OpenTech 2010. Roedd sôn bryd hynny bod Google yn mynd i’w ail-enwi a nawr maen nhw wedi gwneud: mae Google Refine yw e nawr. Rwyf wedi bod yn ei ddefnyddio am y tro cyntaf yr wythnos hon ac, fel roeddwn wedi disgwyl, mae’n declyn defnyddiol iawn i rywun sy’n gorfod glanhau data.
Wrth lanhau rwy’n golygu sicrhau bod y data wedi fformatio’n gyson, geiriau wedi eu sillafu’n gyson ac yn y blaen. Er y gellir glanhau data mewn taenlen trwy “Ffeindio a disodli” drosodd a throsodd, mae Gridworks yn gwneud y broses lawer yn haws. Ei brif nodwedd efallai yw ei ddefnydd o beth mae’n ei alw’n “agweddau” [facets]. Wrth edrych ar golofn a defnyddio “agwedd testun”, er enghraifft, ceir crynodeb o’r golofn ar ffurf crynodeb amlder. Efallai y bydd yn dangos bod y golofn yn cynnwys 6 rhes â “Caerdydd” a 2 res â “Cardydd”. Gydag un clic, gellir eu newid i gyd i “Caerdydd”. Dydw i ddim am fanylu’n fwy. Edrycher ar y fideos sy ar y ddolen uchod i gael syniad gwell. Yn anffodus, does fawr ddim o ddogfennaeth a dydy fideos ddim yn gallu cymryd lle dogfennaeth mewn gwirionedd. Os hoffech ddarllen mwy, mae’r ddolen ganlynol yn rhoi syniad am beth mae’n gallu ei wneud: Using Freebase Gridworks to Create Linked Data
Alws 11:37 PM ar 3 Ionawr 2011 Dolen Barhaol
Google calendar sy’n syncio rhwng y mac ar iphone. Ti mond yn sgwennu apwyntiad unwaith a alle di cael o yn dy boced, ar dy ddesg, neu unrhyw gyfrifiadur yn y byd gyda internet. Mae ambell i bug ynddo a ddim mo’r clean cut a rhywbeth fel mobileme, ond maeo am ddim. Ac yn amlwg mae angen trydan i weld o mewn unrhyw sefyllfa. Rhywbeth i’w gynsidro beth bynnag!
Nic Dafis 12:49 AM ar 4 Ionawr 2011 Dolen Barhaol
Dw i’n defnyddio iCal, a llawer o atgoffiadau. Pethau sy angen eu neud tu allan yn mynd ar gardiau indecs yn y poced, ac hefyd unrhywbeth dw i eisiau cofio yn mynd ar gerdyn yn gyntaf, ac wedyn mewn i iCal tro nesa dw i wrth y cyfrifiadur.
Pan oedd maes-e yn ei anterth, ro’n i’n arfer defnyddio sustem llawer mwy cymhleth (wedi seilio ar “Get Things Done” gan David Allen) – gweler http://www.flickr.com/photos/nicdafis/56015580/ am enghraifft o ba mor geeked-out o’n i ar y pryd. Erbyn hyn dw i ddim yn boddran. Dim ond y cardiau bychain.
Colin Nosworthy 2:21 PM ar 6 Ionawr 2011 Dolen Barhaol
Sticio at ddyddiadur papur. Wedi cael trafferth mawr yn bersonol yn trio cadw pethau ar y ffon neu calendrau arlein – angen bod yn llawer iawn fwy trefnus i ddefnyddio google calendr yn effeithiol