Jest i ddilyn fyny ar ein galwad ar ddiwedd Hacio’r Iaith, roedden ni’n awyddus iawn i drafodaethau barhau drwy’r flwyddyn mewn cyfarfodydd / meetups llai o gwmpas y wlad. Felly, os da chi isio sgwrs efo pobol eraill am syniadau / eich busnes / neu am eich blog yna: pigwch ddyddiad, pigwch leoliad, a hysbysebwch… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith Bach – ydach chi am drefnu un?
Hacio Eisteddfod Bro Morgannwg 2012?
Dim ond cofnod sydyn sydyn i nodi bod hi’n bur bosibl y bydd na safle penodol gyda Di-Wi, sockets trydan, a gofod trafod / cyflwyno ar gael i bobol sydd isio blogio o’r steddfod, cynnal gweithdau neu sesiynau trafod. Does dim byd wedi ei gadarnhau eto, ond dwi’n gobeithio clywed yn fuan am fanylion. O… Parhau i ddarllen Hacio Eisteddfod Bro Morgannwg 2012?
Dyfodol Newyddion Lleol (Sion Richards a Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth)
Sesiwn Gloi Hacio’r Iaith 2012
Pete o @ywladfanewydd yn trafod fideo arlein yng Nghymru
Dyma un o gylchlythyron y gymuned / platfform cynnwys celfyddydol – Y Wladfa Newydd. Ynddo mae Pete, sydd wedi sefydlu’r gwasanaeth drwy-danysgrifiad yma, yn sôn am y manteisio o ddefnydio Y wladfa dros blatfformau eraill fel YouTube ac ati. http://bit.ly/wVJQmq Dwi wedi dilyn ei gyngor a dechrau lanwytho ambell beth o Hacio’r Iaith i wefan… Parhau i ddarllen Pete o @ywladfanewydd yn trafod fideo arlein yng Nghymru
“Mozilla Popcorn makes video work like the web.” – Fy rheswm i i ddysgu Javascript eleni
Ma hwn yn gwneud i fi deimlo bod web docs / web native filmmaking / i-docs o fewn gafael pobol sydd ddim yn gryf iawn gyda chôd. Fel fi. Iei! http://mozillapopcorn.org/ Ma’r fersiwn yma’n dangos posibliadau high-end y feddalwedd, ond mae na esiamplau mwy cymunedol / cyfryngau sifig ar wefan Popcorn.
Fideo Hacio’r Iaith 2012: E-lyfrau Cymraeg (Delyth Prys)
Un i @llef? BitTorrent Live – ffrydio byw peer-to-peer i gynulleidfa fawr (heb y gost)
http://youtu.be/tnHn29WCaJw Defnyddio hwn ar gyfer Haciaith 2013 ella?…
Fideo: Hacio’r Iaith 2012 – Yr Haclediad
Mwy i ddod ar y Sianel Vimeo Haciaith
Gov UK: cyfle @ybwrdd i adael etifeddiaeth
Mae’r Llywodraeth DU wedi agor ei phlatfform newydd fel prawf beta: https://www.gov.uk/ (Newyddion ar BBC News heddiw) Hmmm. Llynedd gwnes i ofyn am ddarpariaeth Gymraeg ac yn ôl y sôn maen nhw yn siarad â Bwrdd yr Iaith a Llywodraeth Cymru. Yn fy marn i, o ran digidol mae’r prosiect yma yn cynnig cyfle gwych… Parhau i ddarllen Gov UK: cyfle @ybwrdd i adael etifeddiaeth