Hacio Eisteddfod Bro Morgannwg 2012?

Dim ond cofnod sydyn sydyn i nodi bod hi’n bur bosibl y bydd na safle penodol gyda Di-Wi, sockets trydan, a gofod trafod / cyflwyno ar gael i bobol sydd isio blogio o’r steddfod, cynnal gweithdau neu sesiynau trafod. Does dim byd wedi ei gadarnhau eto, ond dwi’n gobeithio clywed yn fuan am fanylion. O be dwi’n ddeall mae mewn safle gwych ac o bosib un o;’r datblygiadau mwyaf cyffrous o ran rhoi lle teilwng i gyfryngau digidol annibynnol Cymraeg yn yr Eisteddfod.

Tra’n bod ni’n aros am gadarhnad be am daflu ambell syniad am sut gellid defnyddio’r gofod i’w botensial, a pwhy fyddai a diddordeb ei ddefnyddio.

Dyma ambell syniad i ddechrau:

– sesiynau drop-in ar gyfer dysgu am gyhoeddi arlein a defnydd cyfryngau gwe ar gyfer cymdeithasau / Merched y Wawr / papurau bro ayyb (syniad Sioned Mills oedd hwn dwi’n meddwl)
– sgyrsiau rownd bwrdd amser cinio (nid darlithoedd) nid am ‘beth yw blogio’ ond am agweddau spesiffig iawn o ddylanwad / potensial y rhyngrwyd / technoleg symudol ar ein cymdeithas(au)
– demos o wefannau
– bod yn rhyw fath o ystafell y wasg ar gyfer cyfryngau sifig

Be chi’n feddwl?

8 sylw

  1. Mae hyn yn newyddion gwych.

    Does gen i ddim cynlluniau penodol i’r Steddfod y flwyddyn hon, ond mae hyn yn swnio yn rhy dda i fethu. Dwi’n disgwyl ymlaen i glywed rhagor.

  2. Beth am greu blog byw – Haclyfr – pawb sy’n galw mewn i adael sylwadau am eu diwrnod ar faes yr eisteddfod? Uwchlwytho lluniau ac ati?

  3. Cyffrous, a hen bryd! Licio’r syniad Sioned o roi sesiynau – baswn i’n licio meddwl byddai yna alw, yn enwedig gan bydd lot o aelodau Mercher y Wawr, er enghraifft, ar y Maes, a lot o aelodau mudiadau a chymdeithasau eraill hefyd.

    Syniadau am sesiynau sgwrsio:
    Tips i ddefnyddio web2.0 i’r wasg Gymraeg (e.e Potensial Storify, sesiwn arbennig i Golwg360 ar osod dolennni o fewn erthyglau – Miaw!, darganfod leads o ddefnyddio gwefannau fel WhatDoTheyKnow, chwiliadau ar GoogleBlogSearch a Twitter/Umap)

    Dysgwrdd ar gyfer Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion

    Barcamp i ddysgwyr (syniad Leia)

    bod yn rhyw fath o ystafell y wasg ar gyfer cyfryngau sifig

    Licio fe!

    Gol: (wedi trwsio dolen at drydariad Leia)

    Llinos: Beth am greu blog byw – Haclyfr – pawb sy’n galw mewn i adael sylwadau am eu diwrnod ar faes yr eisteddfod? Uwchlwytho lluniau ac ati?

    Gwell fyth. Mae’r Eisteddfod ei hun fel sefydliad fel petai’n gorfodi rhyw media blackout ar ei hun ynystod yr Wyl, ac er bod y BBC yn gwneud job dda gyda ei ddarpariaeth ar lein, byddai cystadleuaeth annibynol yn iach, ac yngyfle i bobl blogio neu vlogio am y tro cyntaf a gweld pa mor hawdd ydy o.

    Syniadau bril hyd yma.

  4. Dw i’n edrych ymlaen yn barod! Hoffwn wneud rhywbeth gyda’r ddysgwyr a Web 2.0 (Twitter a Soundcloud falle) a sut i defnyddio’r we i adeiladu cysylltiadau gyda’r ‘ byd Cymraeg’… Mae llawer o ddysgwyr yn mynd i’r ‘steddfod heb gwybod ble i ddechrau a mae’n bwysig bwysig iawn i ddod o hyd cyfle i ddefnyddio’r Cymraeg i wneud pethau diddorol… a technoleg yw ‘ffordd mewn’ da.

    Sa i’n siwr eto beth sy’n digwydd ym Maes D, ond bydd SaySomethinInWelsh yna gyda syniadau, falle basai cyfle i gydweithio ‘na.

  5. Mae hyn yn newyddion ardderchog. Gwna i annog fy nghyfeillion I feddwl am syniadau. Cyfle rhy dda i’w wastraffu.

Mae'r sylwadau wedi cau.