Y tro yma ar y Jellicle podlediad sy’n 2 awr o dy amser gei fi fyth nôl… Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod sut mae’r Premier League a byd e-sports basically r’un peth erbyn hyn; saga parhaol app contact tracio yr NHS; Shopify fel lle gwell i siopa nac Amazon a llawer LLAWER… Parhau i ddarllen Haclediad 87: Mr Mistoffe-plîs stopia
Haclediad 86: Crims Hems-worth it?
Croeso i bennod mis Mai 2020 o’r Emmy® award nominated Haclediad – sy’n panicio braidd bydd bobl actually yn gwrando tro ‘ma. Mae Bryn, Iestyn a Sioned yma gyda chi am y 2.5 (😬) awr nesa i’ch arwain trwy stwff techy fel skillz Cwmrâg Alexa, testio’r iPhone SE newydd, rhoi Chrome OS ar Macs,… Parhau i ddarllen Haclediad 86: Crims Hems-worth it?
Sut i greu mapiau o ystadegau – fideo gan @DafyddElfryn
Diolch Dafydd – difyr
Peintio’r byd technoleg yn Gymraeg: gwahoddiad wrth Gymdeithas yr Iaith
Dyma wahoddiad i chi fynychu trafodaeth ymarferol ar y Gymraeg yn y byd(oedd) technoleg: newid polisïau’r corfforaethau mawrion rhyngwynebau Cymraeg meddalwedd Gymraeg platfformau apiau a mwy Y nod yw i gytuno ar weithredoedd ymgyrchu penodol tuag at gael mwy o Gymraeg yn y technolegau rydych chi’n defnyddio bob dydd. Mae croeso cynnes i bawb gymryd… Parhau i ddarllen Peintio’r byd technoleg yn Gymraeg: gwahoddiad wrth Gymdeithas yr Iaith
Haclediad 85: Da Di Dane DeHaan De?!
Croeso i ail bennod manic lockdown energy yr Haclediad – yn dod atoch chi’n fyw o, wel yr union un lle ac o’r blaen – ond gyda gin drytach. Ar y bennod yma (gafodd ei recordio cyn i sgilz Cymraeg Alexa ddod allan) bydd Iest, Bryn a Sions yn trafod yr iPhone SE massive newydd,… Parhau i ddarllen Haclediad 85: Da Di Dane DeHaan De?!
Swydd Peiriannydd Meddalwedd, Uned Technolegau Iaith
Unrhyw un awydd ymuno gyda’r tîm technolegau iaith ym Mhrifysgol Bangor? Mae ganddyn nhw swydd peiriannydd meddalwedd ar brojectau technoleg iaith a lleferydd yn cael ei hysbysebu ar y funud – gw: https://jobs.bangor.ac.uk/details.php.cy?id=QR0FK026203F3VBQB7V68LOPI&nPostingID=4871&nPostingTargetID=5225&mask=extcy&lg=CY
Haclediad 84: Codiad Ymyl Heddychlon
Ar bennod ddiwedara’r Haclediad, mae Bryn, Iestyn a Sioned yma i ddelio efo’ch holl issues gofid-19 – ac i wneud chi chwerthin a glafoerio (ond ddim am yr un peth). Ni’n agor drysau’r clwb Ffilm Di Ddim gyda Pacific Rim: Uprising, yn canu moliant yr iPad newydd ac yn taflu awgrymiadau aps allan fel dwnim… Parhau i ddarllen Haclediad 84: Codiad Ymyl Heddychlon
Newyddion Common Voice Chwefror 2020
Gŵyl Dewi Hapus i bawb! Cyfraniadau Erbyn heddiw, 2 Mawrth mae’r ffigyrau cyfraniadau fel â ganlyn: Recordio: 79 awr Gwrando: 63awr Cyfranwyr: 1172. Mae cynnydd o ddwy awr yn yr oriau dilysu wedi bod ond mae’r cyfraniadau recordio wedi aros yr un â diwedd Ionawr. Mae’n beth da ein bod yn dechrau cau’r bwlch rhwng… Parhau i ddarllen Newyddion Common Voice Chwefror 2020
Haclediad 83: Gin & Aptonic
Ar bennod ddiweddara’r Haclediad, bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dweud RIP i Apton, yn croesawu dyfodol 5G yr A55 ac yn trio ffigro dyfodol darlledu Cymru. Mae’r Afterparty yn llawn gorfoledd gwledd o ffilms Ghibli ar Netflix, piciad mewn ar Picard, pwt am Llyfr Glas Nebo LIVE! plus Bryn a’r Birds of Prey –… Parhau i ddarllen Haclediad 83: Gin & Aptonic
Thunderbird 68 – beth sy’n newydd
Mae Thunderbird 68.5.0 wedi ei ryddhau gyda nifer o nodweddion newydd a diweddariadau diogelwch. Mae’r rhaglen yn cynnig nodwedd rheoli e-byst, calendr a rheolwr tasgau all-lein. Mae modd trefnu iddo reoli nifer o gyfrifon e-byst ar-lein er mwyn eu diogelu all-lein. Mae’r Thunderbird newydd eisoes ar gael drwy’r system diweddaru a hefyd drwy wefan Cymraeg… Parhau i ddarllen Thunderbird 68 – beth sy’n newydd