Firefox 73 – beth sy’n newydd

Mae Firefox wedi ryddhau fersiwn newydd o’u porwr gwe poblogaidd. Mae’r newidiadau yn fersiwn 73.0 yn llai nag arfer. Maen nhw’n cynnwys cywiriadau diogelwch yn ogystal â dwy brif nodwedd newydd. Bydd yn cael ei ddiweddaru’n awtomatig neu mae ar gael o wefan Cymraeg Firefox yn: https://www.mozilla.org/cy/firefox/new/ 1. Rhagosod Chwyddo Tudalen Cyffredinol Gall defnyddwyr Firefox… Parhau i ddarllen Firefox 73 – beth sy’n newydd

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel newyddion

Newyddion Common Voice, Ionawr 2020

Cyfraniadau Erbyn hyn mae gwefan Common Voice Cymraeg wedi casglu 79 awr o recordiadau gyda 61 awr wedi eu dilysu. Hyd yma mae 1163 o bobl wedi cyfrannu. *Mae dal angen parhau i gyfrannu, felly rydym yn gofyn i chi gyfrannu ac annog teulu, ffrindiau, cyd-weithwyr, sefydliadau a chwmnïau i gyfrannu.* Byddai’n dda gallu cynyddu’r… Parhau i ddarllen Newyddion Common Voice, Ionawr 2020

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

LibreOffice 6.4

Mae fersiwn newydd o LibreOffice wedi ei ryddhau yn cynnwys nifer o nodweddion newydd. Dyma’r manylion: Gweithiwch yn gynt, gyda mathau amrywiol o ffeiliau Mae cydnawsedd â Microsoft Office wedi ei wella’n sylweddol, yn arbennig ar gyfer ffeilia DOCX, PPTX ac Excel 2003 XML. Yn y cyfamser, yn Calc, mae’r perfformiad wedi gwella ar gyfer… Parhau i ddarllen LibreOffice 6.4

Dewch i’r Hacathon Hanes, 11 Chwefror 2020, Aberystwyth

Es i i’r Hacathon Hanes diwethaf ac roedd hi’n diwrnod ardderchog ac ysbrydoledig – o ddatblygwyr, pobl data, haneswyr, ymchwilwyr, pobl chwilfrydig, ac eraill yn dod at ei gilydd i geisio canfod dulliau o ddarganfod a chyfleu hanes mewn ffyrdd newydd. Mae trefnwyr yr Hacathon Hanes wrthi eto, yn Aberyswyth y tro hwn, ac wedi… Parhau i ddarllen Dewch i’r Hacathon Hanes, 11 Chwefror 2020, Aberystwyth

Haclediad 82: Brynjury Recovery Blwyddyn Newydd

Blwyddyn newydd dda gan griw’r Haclediad! Neidiwch mewn i ~2awr o epic i groesawu 2020 gyda Bryn, Iestyn a Sioned – byddwn ni’n trafod sut fod camera drws Ring yn rili doji, Sonos yn siwio Google, ac afterparty epic sy DDIM yn siarad am Star Wars Rise of Skywalker, ond sydd sorto yn.

Y Microsoft Edge Newydd :-)

Diweddariad *Mae modd diweddaru i’r Microsoft Edge newydd a defnyddio’r rhyngwyneb Cymraeg* Diolch i wefan cymorth Microsoft GB mae rhyngwyneb Cymraeg ar yr Edge newydd. Dyma sut mae ei gael i weithio: Mynd i Settings (clicio ar y byrgyr)>Language>Add language > Dewis y Gymraeg, yna clico ar y Tri dot > Display Microsoft Edge in… Parhau i ddarllen Y Microsoft Edge Newydd 🙂

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel newyddion

Linux Mint 19.3

Pob chwech mis mae’r dosbarthiadau mawr Linux yn diweddaru eu hunain, gan gynnig gwelliannau a’r meddalwedd diweddaraf. Yn yr achos yma ryddhaodd Linux Mint eu fersiwn newydd 19.3 “Tricia” ym mis Rhagfyr. Mae manylion am y diweddariad i’w gael ar wefan Linux Mint a chyfarwyddiadau ar sut i’w ddiweddaru o 19.2. Fersiwn Cinnamon sy’n cynnwys… Parhau i ddarllen Linux Mint 19.3

WordPress 5.3

Mae’r fersiwn diweddaraf o WordPress, fersiwn 5.3 wedi ei ryddhau ac yn ymddangos ar fyrddau gwaith gweinyddwyr WordPress ar draws y byd. Dyma’r cyflwyniad: Mae 5.3 yn ehangu ac yn mireinio’r golygydd bloc a gyflwynwyd yn WordPress 5.0 gyda blociau newydd, rhyngweithio mwy greddfol, a gwell hygyrchedd. Mae nodweddion newydd yn y golygydd yn cynyddu… Parhau i ddarllen WordPress 5.3

Haclediad 81: 9 mlynedd yn y busnes

Ar bennod ddiweddaraf dy hoff bodlediad oedd-yn-arfer-bod-am-tech-ond-sy-rŵan-am-Duw-â-ŵyr-be: Watchdog yn mynd yn gonzo ar Monzo; mwy o ddoethineb Craig Mod, ac mi aeth Iestyn i weld Joker 🤡🤡🤡
Mae’r after party yn llawn awgrymiadau anime a sci-fi i lleddfu nosweithiau tywyll yr hydref, joiwch!