Haclediad 85: Da Di Dane DeHaan De?!

Croeso i ail bennod manic lockdown energy yr Haclediad – yn dod atoch chi’n fyw o, wel yr union un lle ac o’r blaen – ond gyda gin drytach.

Ar y bennod yma (gafodd ei recordio cyn i sgilz Cymraeg Alexa ddod allan) bydd Iest, Bryn a Sions yn trafod yr iPhone SE massive newydd, apps contact tracing newydd, a llwyddiant De Korea, pam fod pawb angen printers a Nintendo Switches mor sydyn…

Ac wrth gwrs, after party epic yn gwylio’r campwaith di-amau “Valerian and the City of a Thousand Planets” 🚀

Diolch o galon ETO ac ETO i chi gyd sy’n gwrando – gobeithio gewch chi cwpl o oriau o ddianc efo mwydro tri amigo sy’n bell o bawb, ond reit fan hyn yn eich clustiau ❤️

Cefnogwch yr Haclediad

Dolenni