Heddiw mae Mozilla‘n lansio eu cynllun Common Voice amlieithog i helpu dysgu peiriannau sut mae pobl go iawn yn siarad. Mae tair iaith yn cael eu hychwanegu i’r platfform Almaeneg, Ffrangeg, ac ie, – y Gymraeg! Bydd hyn yn gyfle i ddarparu data llais ar gyfer y Gymraeg ar blatfform byd-eang pwerus fydd yn codi… Parhau i ddarllen Lansio Common Voice Cymraeg
Enwebiad i Delyth Prys am ei gwaith ym maes technolegau iaith
Llongyfarchiadau i Delyth Prys am gyrraedd rownd derfynol gwobrau Womenspire 2018. Cafodd ei henwebu yn y categori Adeiladu Cymru am ei gwaith ym maes technolegau iaith dros y blynyddoedd. Mae’r wobr honno yn dathlu’r menywod sydd wedi gwneud gwahaniaeth yng Nghymru mewn sectorau technegol a gwyddonol, ac sydd wedi cefnogi datblygiad menywod eraill yn y… Parhau i ddarllen Enwebiad i Delyth Prys am ei gwaith ym maes technolegau iaith
WordPress a’r GDPR
Mae WordPress wedi ryddhau diweddariad i gynorthwyo defnyddwyr WordPress sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheolau newydd sy’n dod i rym ar Fai 25. ‘Mond 7 diwrnod i fynd! Mae’r diweddariad yn cynnwys rhoi dewis ar sut mae cwcis yn trin eu data personol, creu adran newydd i wefan ddarparu ei dudalen polisi preifatrwydd (Gosodiadau>Preifatrwydd),… Parhau i ddarllen WordPress a’r GDPR
Trydedd sesiwn Anturiaethau Mewn Cod 17/5/2018 HENO
Fe fydd sesiwn drafod Anturiaethau Mewn Cod heno i’r rhai sydd o gwmpas i drafod codio/rhaglennu/creu apiau. Anturiaethau Mewn Cod grŵp Hacio’r Iaith ar Telegram ar nos Iau 19 Ebrill 2018 rhwng 7yh a 9yh Croeso cynnes i BAWB Ewch i hen gofnodion Anturiaethau Mewn Cod am ragor o fanylion.
Rhwydwaith Clecs yn dod i ben (neu’n chwilio am rywun i’w achub)
Dyma gopi o ddatganiad oddi ar tudalen Facebook Clecs. Efallai bod ‘na cyfle yma i rywun.. Mae hi’n amser dweud hwyl fawr ————- 4 blynedd yn ôl dechreuon ni ar ei nod o roi cartref i’r Gymraeg ar-lein. Adnodd penodol i siaradwyr Cymraeg ryngweithio ym mhob man, heb deimlo eu bod nhw’n bobl o’r tu… Parhau i ddarllen Rhwydwaith Clecs yn dod i ben (neu’n chwilio am rywun i’w achub)
Haclediad 68: Google Assiffestant
Ar bennod ddiweddaraf eich hoff bodlediad shambolic bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod y Google assistant newydd; Pam fod textio ar Android yn ofnadwy, Apple Watch Iest, trip Bryn i Ferlin ac ongoing obsesiwn Sioned efo ffilm lled-wael o 2015. Yr hyn oll o’r podlediad sy’n cynnig barn heb wybodaeth, joiwch! Dolenni Google Abandons… Parhau i ddarllen Haclediad 68: Google Assiffestant
Common Voice – technoleg llais Cymraeg
Mae rhaglen Common Voice, Mozilla, yn anelu i gynyddu’r data ar gyfer technoleg llais mewn ieithoedd gwahanol ac ar drwyddedau rhydd. Hyd yma mae technolegau llais wedi bod ar gael drwy Alexa, Cortana, Siri ac ati, ond mae cyfyngiadau ar hawlfraint a’r niferoedd yr ieithoedd i’r modelau hyn. Er bod y rhaglen wedi cychwyn gyda’r… Parhau i ddarllen Common Voice – technoleg llais Cymraeg
Ubuntu 18.04 LTS
Croeso i Ubuntu 18.04 – y fersiwn diweddaraf o’r system weithredu poblogaidd Linux. Mae’r newidiadau yn cynnwys defnyddio bwrdd gwaith GNOME yn lle Unity, er, mae yn edrych yn weddol debyg. Mae’n cynnwys cnewyllyn Linux 4.15; Xorg fel y gweinydd dangosydd rhagosodedig, yn lle Wayland; cefnogaeth i emojis lliw (*y nodwedd pwysicaf un* 😉 );… Parhau i ddarllen Ubuntu 18.04 LTS
Haclediad 67: Zuckin’ Hell
Y tro yma ar yr Haclediad, ni’n mynd am deep dive mewn i uffern Facebook, Cambridge Analytica, ac mae Bryn yn treulio’r awr a hanner gyntaf yn ysgwyd ei ben a mwmian “be oeddech chi’n disgwyl?” OND arhoswch am yr afterparty am lwyth o hunan ofal, pobi, ac awgrymiadau be i wylio/gwrando arno am y… Parhau i ddarllen Haclediad 67: Zuckin’ Hell
Deiseb Facebook Mozilla
Efallai eich bod wedi gweld botwm “Like” neu “Hoffi” Facebook ar wefannau y tu allan i Facebook. Efallai nad oeddech yn gwybod fod y botwm yn caniatáu i Facebook i dracio pa wefannau rydych yn eu pori er mwyn targedu hysbysebion tuag atoch chi. Rydym yn galw ar Facebook i ddiffodd y defnydd o offer… Parhau i ddarllen Deiseb Facebook Mozilla