Ubuntu 18.04 LTS

Croeso i Ubuntu 18.04 – y fersiwn diweddaraf o’r system weithredu poblogaidd Linux. Mae’r newidiadau yn cynnwys defnyddio bwrdd gwaith GNOME yn lle Unity, er, mae yn edrych yn weddol debyg. Mae’n cynnwys cnewyllyn Linux 4.15; Xorg fel y gweinydd dangosydd rhagosodedig, yn lle Wayland; cefnogaeth i emojis lliw (*y nodwedd pwysicaf un* 😉 ); cefnogaeth i Thunderbolt 3 yn GNOME  a lot o feddalwedd wedi ei ddiweddaru.

Mae tipyn o waith wedi ei wneud ar gyfieithiad Cymraeg rhyngwyneb GNOME, gosodwr Debian, ac i gysoni terminoleg. Bydd hyn yn cael ei fwydo nôl i GNOME a Debian ar gyfer dosbarthiadau eraill. Mae’n bell o fod yn gyfieithiad cyflawn ond yn cynnig y rhan fwyaf o’r rhyngwyneb cyntaf. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu.

Gosodiadau