Lansio Common Voice Cymraeg

Heddiw mae Mozilla‘n lansio eu cynllun Common Voice amlieithog i helpu dysgu peiriannau sut mae pobl go iawn yn siarad. Mae tair iaith yn cael eu hychwanegu i’r platfform Almaeneg, Ffrangeg, ac ie, – y Gymraeg!

Bydd hyn yn gyfle i ddarparu data llais ar gyfer y Gymraeg ar blatfform byd-eang pwerus fydd yn codi amlygrwydd y Gymraeg ac yn rhoi cyfle i ddarparwyr ddefnyddio set data parod ar gyfer eu cynnyrch.

Ond mae gennym Paldaruo yn barod, oes angen mwy? Mae’r Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor wedi gweithio’n agos gyda Mozilla i ddatblygu Common Voice. Os ydych chi wedi cyfrannu at Paldaruo, fe welwch nifer o nodweddion cyfarwydd yng nghynllun Common Voice. Ond mae angen llawer iawn mwy o frawddegau a lleisiau na fu yn Paldaruo os ydyn ni am fod yn llwyddiannus yn y gwaith hwn. Mae’r ffaith fod y Gymraeg ar y don gyntaf o ieithoedd ychwanegol yn arwydd o’r parch tuag at waith Delyth, Dewi a’r criw wrth ddatblygu Paldaruo. Diolch yn fawr i chi!

Ond arhoswch, mae ‘na fwy! Ymhlith yr ieithoedd sydd wedi gofyn i gael eu cynnwys yn Common Voice, ac mae yna tua 45 yn aros ar hyn o bryd, mae’r Wyddeleg, y Llydaweg a’r Gernyweg.

Mae eich cyfraniad chi nawr yn hollbwysig. A wnewch chi gyfrannu eich llais, adolygu’r cyfraniadau cyfredol a recordio lleisiau eich teulu, ffrindiau a chydnabod er mwyn cynyddu’r swmp o ddata sydd ar gael ar gyfer y Gymraeg.

Common Voice Cymraeg