Rhwydwaith Clecs yn dod i ben (neu’n chwilio am rywun i’w achub)

Dyma gopi o ddatganiad oddi ar tudalen Facebook Clecs. Efallai bod ‘na cyfle yma i rywun..

Mae hi’n amser dweud hwyl fawr

————-

4 blynedd yn ôl dechreuon ni ar ei nod o roi cartref i’r Gymraeg ar-lein. Adnodd penodol i siaradwyr Cymraeg ryngweithio ym mhob man, heb deimlo eu bod nhw’n bobl o’r tu allan, neu eu bod yn defnyddio cynnyrch oedd ddim o’r un safon â’r holl rai eraill. Aeth llawer o amser, arian a chariad i mewn i greu beth ddaeth yn ‘Clecs’ ac allwn ni ddim bod yn falchach o’r hyn wnaethom ei greu.

Yn anfoddus, mae hi rŵan yn amser dweud Hwyl Fawr.

Mae dau brif reswm pam ein bod yn gorfod rhoi’r gorau iddi, fodd bynnag, maent oll yn deillio o wirionedd trist unrhyw fusnes. Arian. Yn syml, does gennym ni ddim digon o arian i barhau. Gyda’r gofynion sydd ar ddod i gydymffurfio â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn ogystal â bod angen gwneud gwaith atgyweirio strwythurol a graffigol ar y wefan, does gennym ni ddim dewis.

Pan ddechreuon ni, fe wnaethom ni sicrhau nawdd gan gwmni o Gasnewydd er mwyn gwireddu ein breuddwyd. Ers hynny, does yr un person sydd wedi bod yn rhan o’r freuddwyd, na’r cwmni wnaeth fuddsoddi ynom ni, wedi gwneud yr un geiniog o’r fenter hon, er bod degau o filoedd o arian wedi mynd i mewn iddi. Roeddem ni eisiau cadw’r cynnyrch yn un oedd heb hysbysebion a doeddem ni ddim eisiau gwerthu eich data. Tydym ni erioed wedi rhoi unrhyw beth i unrhyw drydydd barti.

Fe geision ni nawdd ychwanegol o nifer o ffynonellau gwahanol ers lansio’r wefan, a hyd yn oed yn y dyddiau cynnar gyda nifer syfrdanol o bobl yn dangos diddordeb ac yn ei defnyddio a miloedd yn cofrestru ar ei chyfer, doedd dim diddordeb gan unrhyw un. Roedd pobl enwog, Aelodau Seneddol a mudiadau yn cofrestru er mwyn defnyddio Clecs, ond doedd neb eisiau helpu. Y siom fwyaf oedd Llywodraeth Cymru gan ein bod wedi ymgeisio am grantiau ar sawl achlysur dim ond i gael gwybod nad oedd y busnes yn ddichonadwy. Ar yr un pryd, roedd cannoedd o siaradwyr Cymraeg yn cofrestru ar ei chyfer, a ni oedd y wefan iaith Gymraeg oedd yn cael ei hymweld fwyaf ar draws y byd.

Yn anffodus ers y dyddiau gogoneddus hynny, tydy pobl ddim yn defnyddio’r wefan gymaint mwyach ac mae nifer y bobl sy’n cofrestru ar ei chyfer wedi lleihau. Fe wnaeth nawdd hysbysebion ddod i ben yn fuan iawn a doedd dim modd ychwanegu nodweddion. Bellach, ynghyd â’r rhagolygon am ffioedd yn gysylltiedig â GDPR, mae hi’n amser dod â phethau i ben.

Rydym ni’n mawr obeithio daw rhywun i’n hachub o’r tywyllwch, fodd bynnag yn yr achos tebygol na fydd hynny yn digwydd, byddwn yn dod â phethau i ben ar y 24ain o Fai.

Diolch i bawb wnaeth gyfrannu tuag at Clecs. Yr holl bobl wnaeth ddod yn ffrindiau, y sgyrsiau a’r hwyl gafodd pawb a’r cariad oedd yn amlwg tuag at yr iaith Gymraeg.

Diolch ichi am y daith hon