Props i Bryn Salisbury a Gareth Jones am…

Props i Bryn Salisbury a Gareth Jones am y gwaith ar adnewyddu’r wefan Stwnsh Steddfod ar gyfer gwneud Stwnsh Hacio’r Iaith: http://stwnsh.com/haciaith/. Gwaith gwych. Piti bod Gareth ddim yn gallu bod hefo ni ar y dydd ond gobeithio fydd o efo ni drwy’r tiwbs!

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel status Cofnodion wedi'u tagio

Neges olaf i bawb sy’n dod

Helo Bawb, Wel, da ni fyny at dros 40 o fynychwyr, sy’n argoeli’n dda am ddiwrnod llawn o sgwrsio a hwyl. Dwi jest isio atgoffa pawb o rai trefniadau: Technegol cofiwch ddod â gliniadur efo chi (efo digon o fatri) er mwyn cael cyfrannu at y drafodaeth ar-lein. Rhan o syniad y gynhadledd ydi rhannu… Parhau i ddarllen Neges olaf i bawb sy’n dod

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Trefniadau

bore da!

edrych mlaen i ddydd sadwrn

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Mae pawb yn gallu blogio yma

Os ti’n dod i Hacio’r Iaith, ti’n gallu cael cyfrif dy hun. Mae pawb yn gallu blogio yma. Rhanna dy feddyliau! Neu sgwennu dolen i gofnod(ion) Hacio’r Iaith ar dy flog dy hun. Ewch i https://haciaith.cymru/help/ am manylion.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Help, post Cofnodion wedi'u tagio ,

One, two…One, two…testing…Y Darllediad Byw!

Rhwng 12-1pm ar ddydd Sadwrn, byddwn ni’n darlledu’n fyw o Hacio’r Iaith. Criw podlediad Metastwnsh fydd yno, yn mynd trwy eu petha, gan edrych ar bynciau llosg technolegol y dydd. Dwi’n credu mod i’n iawn i ddweud y bydd Bryn, Iestyn, Sioned, a Rhys yn cynrychioli. Gair. Mae’r ffrydio yn dod i chi drwy garedigrwydd… Parhau i ddarllen One, two…One, two…testing…Y Darllediad Byw!

Sticeri Adnabod

Da ni wedi creu set o dempladau ar gyfer creu sticeri “Helo” ar gyfer Hacio’r Iaith. Cliciwch ar y ddelwedd i weld y set gyfan. Oes ganddoch chi awgrym am un mewn tafodiaith arall?