Neges olaf i bawb sy’n dod

Helo Bawb,

Wel, da ni fyny at dros 40 o fynychwyr, sy’n argoeli’n dda am ddiwrnod llawn o sgwrsio a hwyl.

Dwi jest isio atgoffa pawb o rai trefniadau:

Technegol

  • cofiwch ddod â gliniadur efo chi (efo digon o fatri) er mwyn cael cyfrannu at y drafodaeth ar-lein. Rhan o syniad y gynhadledd ydi rhannu gwybodaeth am eich barn a chynnwys y sesiynau yn ehangach na dim ond y gynahdledd ei hun. Gall hyn fod yn gymryd nodiadau a’u rhoi ar y we, blogio’n fyw, rhoi gwybodaeth ar y Wiki, neu rannu sdwff ar rwydweithiau cymdeithasol (bydd popeth wedi ei dagio #haciaith yn ymddangos ar y stwnsh).
  • bydd cyswllt di-wifr ar gael, a bydd y manylion ar gael wrth i chi gofrestru
  • Byddwn yn recordio’r trafodaethau i gyd yn stafelloedd 1 a 2 (un ar fideo ac un sain yn unig), felly os nad ydych chi’n hapus i wneud hynny gyda’ch sesiwn chi, yna gadwch ni wybod. Fel arall, byddwn ni’n cymryd yn ganiataol bod chi’n hapus gyda’r trefniant. Fodd bynnag, da ni isio i bobol eraill glywed beth sy’n cael ei ddweud felly faswn i’n annog chi i adael i ni recrordio cymaint ag sydd bosibl.

Rhaglen/Cyfrannu

  • Byddwch yn barod i siarad! Bydd y diwrnod yn disgyn fflat ar ei wyneb os nad oes unrhyw un yn fodlon sôn am eu gwaith neu gynnal trafodaeth. Sdim rhaid paratoi unrhywbeth fflash, dim ond bod yn barod i egluro beth rydych chi yn ei wneud/eisiau ei wneud/â diddordeb datblygu neu siarad am bwnc o’ch drwis chi.
  • Alla i atgoffa pawb i edrych eto ar drefn y diwrnod (neu anhrefn y diwrnod ella…) .
    • Mae 13 o slotiau 30 munud ar gael (cewch chi slot llai os da chi isio).
    • Efallai bydd gormod eisiau slot a’r grid yn llenwi’n sydyn. Os felly, gallwn wneud lle i siarad yn yr atriwm.
    • Os na fydd digon o bobol eisiau siarad, yna bydd rhaid i ni feddwl ar ein traed. Ewch ati i ffurfio panel byrfyfyr rownd pwnc trafod sydd angen sylw. Dwi’n siwr bydd hi’n ddigon hawdd dechrau sawl trafodaeth.
  • Os ydych chi wedi cael syniad am sesiwn hanner ffordd trwy’r diwrnod, ffeindiwch le i’w gynnal a nodwch o ar y grid.
  • Mae’n bwysig bod pawb yn gwneud yn siwr nad ydyn nhw’n mynd dros amser. Fydd neb yn chwibanu i nodi diwedd 30 munud, felly dewch a watsh!

Parcio

  • Mae manylion parcio rwan ar y wici: http://hedyn.net/hacio_r_iaith#teithio

Swper Nos Wener

  • I’r rhai sy’n teithio i Aber ar nos Wener, bydd na griw yn mynd allan am fwyd i rywle, rhwng 7 ac 8, siwr o fod am gyri. Os da chi isio ymuno, anfonwch ebost nôl i ni gael archebu bwrdd.

Hwyl

  • Os oes gan unrhyw un hen consoles neu gajets yn y tŷ, dewch â nhw gyda chi er mwyn eu gosod i’w chwarae yn yr egwyl. Unrhyw hen Spectrums, Commodore64 neu Megadrives allan na? Bricsan o ffôn symudol o oes yr arth a’r blaidd, Psion organizer? Plis dewch a nhw efo chi i ni gael gweld!

Nos Sadwrn

  • I’r rhai fydd dal yma ar ddiwedd y dydd bydd diod ar gael o ganol pnawn ac os da chi yn aros, bydd rhai siwr o fod yn mynd i dref wedyn i siarad chydig mwy. A ma na rai am fynd i weld Aphrodite yn DJo yn yr Undeb wedyn hefyd os da chi’n ffan o bach o Jyngl Hen Ysgol.

A chofiwch rannu’r dolenni canlynol i bobol sydd ddim yn gallu dod:

Blogio Byw: https://haciaith.cymru/
Darllediad Byw rhwng 12-1pm: https://haciaith.cymru/darllediad-byw/ neu http://www.ustream.tv/channel/haciaith
Stwnsh Swyddogol Haciaith: http://stwnsh.com/haciaith/

Welwn ni chi fory!