Haclediad #11 – Y Llew yr Afal a’r Cwmwl

Mae Haclediad 11 yma i chi wrando arno ar yn eich carafan, adlen neu westy moethus ym mro’r Eisteddfod! Yn y rhifyn hwn byddwn yn trafod OS X – Lion ar  y Mac, yr aps diweddaraf Cymraeg (ond yn hepgor update newydd iSdeddfod gan griw Fo a Fe, sori bois!), dyfodiad a thyfiant Google+ a gweledigaeth y buddsoddwr… Parhau i ddarllen Haclediad #11 – Y Llew yr Afal a’r Cwmwl

Y Llyfrgell Brydeinig a Google

Mae’r Llyfrgell ‘Brydeinig’ (enw od yn Gymraeg) wedi cyhoeddi partneriaeth gyda Google i sganio 250,000 o lyfrau o gasgliad y Llyfrgell. Mi fydd y dogfennau yn cael eu dewis o’r cyfnod rhwng  1700 a 1870. Newyddion da yn sicr  a dwi wedi gofyn o’r blaen pam nad yw Llyfrgell Cenedlaethol Cymru yn mynd i bartneriaeth… Parhau i ddarllen Y Llyfrgell Brydeinig a Google

API cyfieithu Google

Mae Google wedi penderfynu cau eu API ar gyfer Google Translate erbyn Rhagfyr 1 , 2011. Mae nhw’n dweud mai’r rheswm am hyn yw ‘camddefnydd helaeth’. Dyw hyn ddim yn effeithio y gwasanaeth cyfieithu ar lein nac y teclyn sy’n gallu cael ei osod ar wefannau. Mi roedd yr API yn galluogi gwefannau a blogiau… Parhau i ddarllen API cyfieithu Google

Haclediad #9 – Yr un [redacted]

Megis ffreis Ffrengig a Big Mac dyma Haclediad #9 mewn amser record o gyflym! Croesawn y polymath cyfryngol Cymraeg, Rhodri Ap Dyfrig (@nwdls) i’r Haclediad am y rhifyn hwn; a byddwn yn trafod dyfodiad iPhone app S4C, sïon yr iPhone 5, e-ddarllenwyr ac e-lyfrau Cymraeg a datblygiadau’r Windows Phone. Os nad yw Twitter wedi rhoi’n… Parhau i ddarllen Haclediad #9 – Yr un [redacted]

Mapio’r blogosffêr Iseldireg

“Where do bloggers blog? Studying platform transitions within the Dutch blogosphere” http://web.mit.edu/comm-forum/mit7/papers/HelmondWeltevredeMIT7_DutchBlogosphere.pdf Papur academaidd (drafft) gan Esther Weltevrede ac Anne Helmond. (trwy @paulbradshaw)

FixMyStreet yn Gymraeg?

Yr wythnos diwetha, gwelais drydariad gan MySociety ynglŷn a’r ffaith bod Repara Ciutat (sef fersiwn Sbaenaidd o FixMyStreet/system nodi digwyddiad traffig?) wedi ennill rhyw wobr neu gilydd. Sylwais bod y wefan ar gael mewn Catalaneg a Castilieg (a Saesneg i ddod). Holais MySociety os byddai’n bosib lleoleiddio FixMyStrret i’r Gymraeg, gan bod awdurdodau lleol Cymru… Parhau i ddarllen FixMyStreet yn Gymraeg?

Nid jyst Podlediad arferol mohono… ond Haclediad #8!

Mae hwn wedi bod yn bragu gyda ni ers tipyn, ond yn y rhifyn blasus hwn bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod y stori (neu beidio) o dracio lleoliad gan Apple, sut wnaeth y briodas Frenhinol styrbio trydar y genedl a phroblemau dybryd y Rhwydwaith PlayStation. I ddod a ni nôl i dir sanctaidd… Parhau i ddarllen Nid jyst Podlediad arferol mohono… ond Haclediad #8!

60 o apps symudol Cymraeg?

http://ap-webber.blogspot.com/2011/04/rhestr-llawn-o-apps-cymraeg-effallai.html Mae Marc Webber yn honni bod yna dros 60 o apps ar y platfformau iphone ac Android. Oes na rai sydd ddim ar y rhestr? Ond y cwestiwn pwysig – oes na lawer o apps o wir werth yno? Dwi’n defnyddio app Cyw bob dydd, a dwi wedi defnydio Dr. Cocos yn aml…ond beth… Parhau i ddarllen 60 o apps symudol Cymraeg?