FixMyStreet yn Gymraeg?

Yr wythnos diwetha, gwelais drydariad gan MySociety ynglŷn a’r ffaith bod Repara Ciutat (sef fersiwn Sbaenaidd o FixMyStreet/system nodi digwyddiad traffig?) wedi ennill rhyw wobr neu gilydd. Sylwais bod y wefan ar gael mewn Catalaneg a Castilieg (a Saesneg i ddod).

Holais MySociety os byddai’n bosib lleoleiddio FixMyStrret i’r Gymraeg, gan bod awdurdodau lleol Cymru yn cymryd Deddf Iaith 1993 a’u cynlluniau iaith mor o ddirfi!

Cefais yr atab cadarnhaol hyn yn ôl:

Dear Rhys,

Thanks for getting in touch, and thanks for the offer [o gynnig gwneud y lleoleiddio]!

We’re actually in the process of migrating FixMyStreet to Catalyst, and so you might want to wait a while in case anything changes drastically during the conversion and to give us a chance to iron out any bugs.

However, the file to translate presumably wouldn’t change too much, if you want to take a look at it:
https://github.com/mysociety/fixmystreet/blob/master/locale/FixMyStreet.po

This is the current language file; there is a possibility that it may well change due to the migration – but hopefully only in spacing, etc., and the main bits of text should theoretically remain relatively unchanged.

Diolch 🙂

Dw i’n meddwl mai aros i’r wefan gael ei newid fyddai orau, er yr awgrymiad mai ychydig iawn o newid fydd. Croeso i unrhyw un edrych ar y ffeil yn y cyfamser.  Mond un blog Cymraeg sy’n defnyddio FixMyStreet ar hyn o bryd, ond hoffwn ei ychwanegu at Ein Caerdydd.

Mi adawa i chi wybod am unrhyw ddatblygiadau.

3 sylw

  1. Dim ond 483 ymadrodd unigryw. Pam aros?
    🙂

    Mae Google Docs yn eitha cynaliadwy am gyfieithu .po os ti eisiau rhannu’r gwaith. Neu gosod teclyn fel Pootle.

  2. Go on ‘ta. Alli di ei osod ar ddogfen GoogleDocs? Ceisiais wneud, ond do’n i ddim yn gallu cael y rhifau cywir wrth ochr yr ymadroddion, neu dydy hynny didm llawer o bwys?

Mae'r sylwadau wedi cau.