Mae Thunderbird yn raglen amlbwrpas, cyfoethog sy’n delio gydag e-bost, negeseuon sgwrsio, gan gynnwys Twitter a Facebook, calendr a thasgau. Mae popeth yma ar gyfer prysurdeb bywyd! A wnaethoch chi erioed golli e-byst o gyfrif ar-lein erioed, wel mae Thunderbird yn cynnig modd i’w cadw’n ddiogel os fydd rhywbeth yn digwydd i’ch cyfrif neu ddarparwr… Parhau i ddarllen Thunderbird yn Gymraeg
Categori: Amrywiol
WordPress Android 4.5
Mae’r ap WordPress ar gyfer Android wedi cael ei ddiweddaru i fersiwn 4.5 gyda mân welliannau: Gosodiadau Hysbysiadau Newydd sy’n caniatáu i chi newid hysbysiadau pob blog yn unigol. Hoffi (neu beidio) beth rydych yn ei weld? Gallwch nawr gyhoeddi neu ddychwelyd newidiadau lleol yn y sgrin Rhagolwg. Cefnogaeth i bentwr o hysbysiadau yn Android… Parhau i ddarllen WordPress Android 4.5
6 SWYDD: tech, datblygwyr, data i Swyddfa Ystadegau Gwladol @ONSDigital Casnewydd
Mae Swyddfa Ystadegau Gwladol newydd gyhoeddi manylion am chwech swydd. (Does dim Cymraeg i weld yn anffodus.) Cysylltwch yn uniongyrchol am ragor o fanylion.
Tyfu cynulleidfa cylchgronau Cymraeg trwy ar-lein – @Dyfrig yn dechrau trafodaeth
Mae Dyfrig Jones yn codi lot o bwyntiau difyr a phrofoclyd am gylchgronau Cymraeg ar-lein ar Cymru Fyw: […] mae byd newyddiaduraeth yn wahanol, yn enwedig newyddiaduraeth ar-lein. Dwi’n darllen ystod o gyhoeddiadau ar y we, ac yn gwneud hynny heb dalu’r un geiniog. Chwithig, felly, ydi ymweld â gwefan Barn a gweld erthyglau’n cael… Parhau i ddarllen Tyfu cynulleidfa cylchgronau Cymraeg trwy ar-lein – @Dyfrig yn dechrau trafodaeth
Cwrw a thafarndai mwyaf poblogaidd Caerdydd (yn ôl Untappd)
Mae gwefan BarDiff yn dangos pob math o ystadegau am gwrw a yfir yng Nghaerydydd yn seiliedig ar ‘checkins’ ar Untappd. Mae’n cynnwys y cwrw unigol mwyaf poblogaidd (gweler y graff isod), y math o gwrw sy’n cael ei yfed, o ba fragdai, ym mha dafarndai ac ar ba adegau o’r dydd. Mae’r graff yn dangos y… Parhau i ddarllen Cwrw a thafarndai mwyaf poblogaidd Caerdydd (yn ôl Untappd)
Cymreigio’r we: sgwrs panel ar hyrwyddo’r Gymraeg ar-lein #steddfod2015
Rhannu manylion o ddigwyddiad ar faes yr Eisteddfod ydw i: Sgwrs panel ar hyrwyddo’r Gymraeg ar-lein yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Maldwyn a’r Gororau Lleoliad: Stondin Mentrau Iaith (Rhif y Stondin: M47/M48) Dyddiad: Dydd Gwener, 7fed Awst 2015 Amser: Rhwng 14.00 a 15.00. Cadeirydd: Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg360 Panel: Jo Golley, .cymru .wales… Parhau i ddarllen Cymreigio’r we: sgwrs panel ar hyrwyddo’r Gymraeg ar-lein #steddfod2015
Hacio’r Iaith ym Meifod: nos Fercher a nos Sadwrn yng nghlwb COBRA #steddfod2015
Helo Ydych chi ym Meifod eleni? Ydych chi’n chwilio am ddiod a sgwrs anffurfiol gyda phobl o ledled Cymru a thu hwnt am apiau, fideos, ymgyrchu, ymchwil, busnes, addysg a mwy? Bydd croeso cynnes i bawb yng nghlwb COBRA ar y ddwy noson ganlynol: Nos Fercher 5ed mis Awst 2015 5:30YH tan 7:30YH Clwb Cobra,… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith ym Meifod: nos Fercher a nos Sadwrn yng nghlwb COBRA #steddfod2015
Windows 10 yn Gymraeg ar gael nawr!
Mae Windows 10 wedi ei lansio ac mae ar gael yn Gymraeg o’r cychwyn. Sut mae cael gafael ar Windows 10? Os ydych ar Windows 7 ac 8.1 ac wedi diweddaru’n gyson bydd ar gael i chi am ddim drwy gydol y flwyddyn nesaf. Os ydych ar ryw fersiwn cynt o Windows neu heb fod… Parhau i ddarllen Windows 10 yn Gymraeg ar gael nawr!
Geiriadur Prifysgol Cymru yn #steddfod2015
Dyma ddatganiad gan dîm Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyswlltwch yn uniongyrchol am ragor o fanylion. “Colofnydd, Coniac, a Fflachlif” Sgwrs am flwyddyn gyntaf GPC Ar Lein a chyfle i glywed am `aps’ newydd y Geiriadur. Siaradwyr: Arwel Ellis Owen, Dafydd Johnston, ac Andrew Hawke. 11.00 Fore Mercher, 5 Awst, Stondin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.… Parhau i ddarllen Geiriadur Prifysgol Cymru yn #steddfod2015
Uned Technolegau Iaith yn #steddfod2015 – Ap Geiriaduron, labeli meddyginiaethau, CyfieithuCymru a mwy
Mae Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor wedi rhyddhau gwybodaeth am ddigwyddiad ar faes yr Eisteddfod ym Meifod eleni: Arloesi ar gyfer Technolegau Iaith a’r Cyfryngau Digidol Mae’n bleser gennym eich gwahodd i sesiwn Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Cynhelir y sesiwn am 4 o’r gloch brynhawn Llun, y… Parhau i ddarllen Uned Technolegau Iaith yn #steddfod2015 – Ap Geiriaduron, labeli meddyginiaethau, CyfieithuCymru a mwy